To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Trefriw yng Ngogledd Cymru

Trefriw yng Ngogledd Cymru

Chwaraeon dŵr ar Llyn Geirionydd

Trefriw

Yn gryno. Gwlân a dwr, a’r cyfan mewn lleoliad gwych yn Nyffryn Conwy.

Mae ymwelwyr sy’n dewis gyrru i lawr Dyffryn Conwy ar hyd yr A470 o Landudno i Fetws-y-Coed, yn aml yn esgeuluso Trefriw. Camgymeriad mawr. Saif y pentref ar yr ochr draw i’r afon ar ffordd y B5106, ffordd sy’n dawelach – ac yn cynnig gwell golygfeydd – na’r briffordd. Ac yn goron ar y cyfan, gallwch ymweld â Threfriw.

Y Rhufeiniaid a ddaeth yma gyntaf (roeddynt wrth eu bodd â’r dyfroedd haearnol), ac roedd y pentref ffynhonnau hwn yn atyniad poblogaidd iawn gydag ymwelwyr oes Victoria a deithiai yma ar stemar o Gonwy i ‘gymryd y dyfroedd’.

Mae dwr yn elfen bwysig yn Nhrefriw (maddeuwch y gair mwys). Dwr gwyllt Afon Crafnant, a ddaw o’r llynnoedd yn y mynyddoedd uwchlaw, sy’n cynhyrchu’r trydan i yrru’r peiriannau ym Melin Wlân Trefriw. Mae carthenni a brethyn cartref wedi’u cynhyrchu yma ers ymhell dros 150 o flynyddoedd. Gallwch fynd ar daith o amgylch y felin a gwylio’r peiriannau hynod gymhleth a swnllyd yn cymysgu, sythu, troelli, dirwyn a gwehyddu’r gwlân, cyn taro heibio’r siop i gael golwg ar y cynnyrch.

Mae’r dwr yn llifo o Lyn Crafnant a Llyn Geirionnydd, dau lyn diarffordd a leolir yn uchelfannau Coedwig Gwydyr. Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol i dirlun garw, creigiog Eryri, mae Trefriw yn cynnig dewis o lwybrau beicio a cherdded hawdd (dilynwch rai o Lwybrau Trefriw) – heb anghofio’r pysgota gwych am frithyll a brithyll seithliw ym Mhysgodfa Crafnant.

Dod o hyd i lety yn Nhrefriw a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.

Uchafbwyntiau

Porth Llywd Pottery, Tal y Bont

Crochenwaith Porth Llwyd

Ychwanegu Crochenwaith Porth Llwyd  i'ch Taith

Crochenwaith stiwdio, gyda dewis helaeth o grochenwaith caled a phorslen. Wedi ei...

Escape Boutique B&B, Llandudno

Gwely a Brecwast Escape

Ychwanegu Gwely a Brecwast Escape i'ch Taith

Escape yw gwesty bwtîc cyfoes cyntaf Llandudno. Mae’n fila Fictoraidd unigryw,...

Llandudno Ski & Snowboard Centre

Llandudno Ski & Snowboard Centre

Ychwanegu Llandudno Ski & Snowboard Centre i'ch Taith

Mae nifer o wahanol weithgareddau ar gael ar y llethr – sgïo, eirafyrddio, eira...

Alison Bradley Gallery, Betws y Coed

Alison Bradley Gallery

Ychwanegu Alison Bradley Gallery i'ch Taith

Gellir dod o hyd i’r Alison Bradley Gallery, a sefydlwyd yn 2008, yng nghanol...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.