To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Capel Sant Trillo, Llandrillo-yn-Rhos

Llandrillo-Yn-Rhos

Yn gryno. Tlws yw popeth bychan yn achos y dref glan-môr hon a saif rhwng y brodyr mawr, Llandudno a Bae Colwyn.

Mae’n biti na fyddai pob tref glan-môr yr un fath â hon – yn daclus, dilychwin a heddychlon. Mae’r promenâd hir yn ymestyn ar hyd y lan o Fae Colwyn at forglawdd Llandrillo-yn-Rhos, lle ceir harbwr bychan sy’n eich atgoffa o bentref bychan ar arfordir Gorllewin Cymru.

Nid dim ond y promenâd traddodiadol ac awyr ffres y môr sy’n denu cerddwyr. Gallwch ddechrau eich taith trwy ymweld â Chapel Sant Trillo, adeilad bychan bwaog ar Rhos Point. Saif ar safle ffynnon iachusol hynafol, a hon yw’r eglwys leiaf ym Mhrydain, gyda lle i dim ond chwech o addolwyr. Mae Capel Sant Trillo yn un o 26 safle hanesyddol ar Lwybr Treftadaeth gylchol Llandrillo-yn-Rhos, sydd hefyd yn eich arwain i Fryn Euryn, lle gallwch weld gweddillion y fryngaer o’r 5ed ganrif a mwynhau golygfeydd eang.

Mae’r thema ‘hardd yw popeth bach’ yn parhau yn Theatr Bypedau’r Harlequin, un o atiadau enwocaf Llandrillo-yn-Rhos o bosibl. Sefydlwyd y theatr ym 1958, a hon yw prif theatr bypedau marionetau Prydain, y gyntaf i’w chynllunio a’i hadeiladu ar gyfer pypedau a’r unig un o’i bath.

Byddai eraill, efallai, yn honni fod Llandrillo-yn-Rhos yn fwy adnabyddus am ei rhan yn hanes darganfyddiad America. Yn draddodiadol, dywedir mai Christopher Columbus a laniodd yno gyntaf, ym 1492. Ond yn ôl fersiwn wahanol o’r hanes, glaniodd Cymro o’r enw Tywysog Madog yno 300 mlynedd ynghynt ar ôl hwylio o Landrillo-yn-Rhos.

Fel sy’n ddigwyliedig o dref fechan, mae Llandrillo-yn-Rhos yn lle cyfeillgar gyda nifer o siopau bychain unigryw. Mae hwylio, nofio, a physgota môr yn boblogaidd a gall beicwyr ddilyn llwybr sy’n arwain am filltiroedd ar hyd yr arfordir. Mae Clwb Golff Llandrillo-yn-Rhos, yn ôl y disgwyl, yn gyfeillgar iawn hefyd. Mae’r cwrs 18-twll ar y parcdir yn cynnig golygfeydd godidog o’r môr a honnir bod y cwrs ymhlith un o’r mwyaf blaengar yng Ngogledd Cymru.

Dod o hyd i lety yn Llandrillo-yn-Rhos a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.

Uchafbwyntiau

Underground Adventures, Betws y Coed

Go Below Underground Adventures

Ychwanegu Go Below Underground Adventures i'ch Taith

Beth am brofi antur hollol wahanol ger Betws-y-coed a theithio drwy fynydd drwy...

St Tudno Hotel

Gwesty a Bwyty St Tudno

Ychwanegu Gwesty a Bwyty St Tudno i'ch Taith

Mae croeso cynnes ac awyrgylch cyfeillgar yn aros amdanoch yng Ngwesty St Tudno

Sunnycroft

Sunnycroft

Ychwanegu Sunnycroft i'ch Taith

Mae Sunnycroft hanner ffordd rhwng Traeth y Gogledd a Phen Morfa, yn agos i’r holl...

Llwybr Gwytnwch Eryri, Llanrwst

Llwybr Gwytnwch Eryri, Llanrwst

Ychwanegu Llwybr Gwytnwch Eryri, Llanrwst i'ch Taith

Croeso i Lwybr Gwytnwch newydd sbon Eryri - rhan o Benwythnos Antur Gŵyl Eryri yn...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.