To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Llanrwst

Llanrwst

Y farchnad yn Sgwâr Ancaster

Llanrwst

Yn gryno. Tref hardd, hanesyddol, ‘prifddinas’ Dyffryn Conwy gwyrdd.

Y peth cyntaf i ddal eich sylw yn Llanrwst yw’r bont tri-bwa hardd dros Afon Conwy, sydd wedi’i phriodoli i Inigo Jones, y pensaer adnabyddus o’r 16eg/17fed. Mae’r bont yn arwain dros y dwr croyw byrlymus i Tu Hwnt i’r Bont, ty hynafol hardd o’r 15fed ganrif sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hanes ar bob llaw yn y dref hon. Un o drysorau pennaf Capel Gwydir, Eglwys Sant Grwst, yw bedd-gist garreg drom honedig Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd yn y 13eg ganrif. Mae capel arall – Gwydir Uchaf – a saif yn y coed ar gyrion y dref yn enwog am y paentiadau cain ar ei nenfwd.

Mae’r enw ‘Gwydir’ i’w weld ym mhob man. Mae ymweliad â Chastell Gwydir, cartref teulu pwerus y Wynniaid, yn brofiad arbennig a llawn awyrgylch. Adeiladwyd y plasty Tuduraidd crand hwn, nad oes llawer ohonynt i’w cael yng Nghymru, ar safle hanesyddol pwysig. Gerllaw mae Coedwig Gwydyr, lle ceir rhwydwaith o lwybrau cerdded ag arwyddbyst megis Taith Gerdded yr Arglwyddes Mair a fydd yn eich cyflwyno i hanes yr ardal a chymeriadau megis Dafydd ap Siencyn, ‘Robin Hood’ y goedwig. Ewch yn eich blaen ac i fyny a chyn hir byddwch yn cyrraedd dau lyn hyfryd a thawel, sef Llyn Geirionnydd a Llyn Crafnant.

Yn ôl yn y dref, mae amrywiaeth o siopau annibynnol yn gwerthu pob math o nwyddau, o lyfrau i fwydydd artisan ac arbenigol.

Dod o hyd i lety yn Llanrwst a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.

Uchafbwyntiau

Marchnad Nadolig Hen Golwyn

Marchnad Nadolig Hen Golwyn

Ychwanegu Marchnad Nadolig Hen Golwyn i'ch Taith

Mae Marchnad Nadolig Hen Golwyn yn dychwelyd am ei hail blwyddyn!

Albany House, Llandudno

Albany House

Ychwanegu Albany House i'ch Taith

Hoffai’r perchnogion newydd, Gavin a Mandie, eich croesawu i Albany House. Wedi’i…

Imperial Hotel

Gwesty’r Imperial

Ychwanegu Gwesty’r Imperial i'ch Taith

Mae’r Imperial yn westy pedair seren cain, wedi’i leoli’n berffaith ar ganol y…

Evans Hotel Llandudno Front

Gwesty Evans

Ychwanegu Gwesty Evans i'ch Taith

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn ein gwesty teuluol gwobredig.

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.