To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Llandudno gyda’r Nos

Llandudno

Yn gryno. Hoff gyrchfan glan-môr Bill Bryson.

Pwy allai anghytuno a hynny wrth fynd am dro ar hyd promenâd cain Llandudno, heibio’r gwestai lliw pastel a’r bensaernïaeth glan-môr wreiddiol, yn union fel y gwnaeth pobl oes Victoria? Y cyfan sydd ei angen i gwblhau’r llun yw parasol â ffriliau (ar gyfer y gwragedd) a het wellt (ar gyfer y dynion).

Yn wahanol i nifer o gyrchfannau eraill, nid yw Llandudno wedi newid rhyw lawer yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae’r dref yn gartref i’r pier (yr hiraf yng Nghymru), sioe Pwnsh a Jwdi a reidiau asynnod ar y traeth, a’r tu ôl i’r promenâd ceir strydoedd o siopau dan ganopïau hardd. Yn syml iawn, mae Llandudno, ‘Brenhines’ cyrchfannau gwyliau Cymru, wedi cadw urddas oes Victoria.

Mae’r harmoni hwn i’w ganfod hefyd yn naearyddiaeth tref Llandudno. Mae’r prif draeth, Traeth y Gogledd, wedi’i fframio’n berffaith gan ddau benrhyn, sef y Gogarth a Thrwyn y Fuwch. Yr ochr draw i’r Gogarth – gan deithio ar ffordd odidog Cylchdro’r Gogarth a gerfiwyd yn y clogwyni, dewch at ail draeth, sef Pen Morfa. Dyma lle y treuliodd Alice Pleasance Liddell, y ferch a ysbrydolodd ‘Alys yng Ngwlad Hud’, ei gwyliau pan oedd yn blentyn. Bydd Llwybr Alys, sydd i’w gwblhau yn 2014, yn eich tywys ar hyd 40 man o ddiddordeb o amgylch y dref.

Mae ymddangosiad sydêt y dref yn gamarweiniol. Mae Llandudno yn llawn i’r ymylon o bethau i’w gwneud a’u gweld. Ewch am daith ar y dramffordd sydd ar arddull tramiau San Francisco neu teithiwch ar y car cebl Alpaidd i gopa Parc Gwledig y Gogarth i fwynhau’r golygfeydd godidog cyn diflannu i grombil y ddaear yn y mwyngloddiau copr hynafol. Gallwch fynd ar wib i lawr y Gogarth ar y llethr sgïo artiffisial, ewch i Amgueddfa Llandudno a MOSTYN, yr oriel gelf flaengar, neu beth am chwarae golff ar gyrsiau pencampwriaeth clasurol. Ac ar ôl iddi dywyllu, Venue Cymru yw’r lle delfrydol i fwynhau cynyrchiadau theatr ac adloniant o bob math.

Dod o hyd i lety yn Llandudno a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.

Uchafbwyntiau

Conwy Castle - Cadw, Welsh Government (Crown Copyright)/Cadw, Llywodraeth Cymru (Hawlfraint y Goron)

Castell Conwy

Ychwanegu Castell Conwy i'ch Taith

Wedi’i adeiladu ar gyfer y Brenin Edward I rhwng 1283 a 1287, mae cynllun Meistr...

Bodnant Garden, Tal y Cafn

Gerddi Bodnant

Ychwanegu Gerddi Bodnant i'ch Taith

Mae Gardd Bodnant ar safle dros 80 erw a dyma un o’r gerddi gorau ym Mhrydain. Yn y...

Bys a Bawd, Llanwrst

Bys a Bawd

Ychwanegu Bys a Bawd i'ch Taith

Siop sy’n rhoi croeso cynnes Cymreig i bobl leol ac i ymwelwyr yng nghanol tref...

Zip World Fforest

Zip World Fforest

Ychwanegu Zip World Fforest i'ch Taith

Mae Zip World Fforest, ger Betws-y-coed yn leoliad coetir eidylig ar gyfer eich holl...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.