To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Yr Eglwys St Winefrid yn, Gwytherin

Pentrefi Dyffryn Elwy … a Llawer Mwy

Yn gryno. Pentrefi cuddiedig yn y bryniau a’r rhostiroedd ar lethrau Dyffryn Conwy.

Saif pentrefi prydferth Llangernyw a Llanfair Talhaearn yn nyffryn cysgodol Afon Elwy, ar y ffordd ogleddol i rostiroedd Mynydd Hiraethog. Dywedir mai coeden ywen hynafol Llangernyw sydd rhwng 4,000 a 5,000 mlwydd oed, yw’r peth byw hynaf yng Nghymru. Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn dathlu bywyd yr athronydd, academydd ac addysgwr blaenllaw o’r 19fed ganrif, a oedd hefyd yn ymgynghorydd i Lloyd George. Mae’r amgueddfa’n cynnwys arddangosfa sy’n dangos bywyd yn oes Victoria mewn cymuned fechan Gymraeg draddodiadol. Mae’n werth galw ym mhentref Llanfair Talhaearn i’r de-orllewin, canolfan ddelfrydol i bysgotwyr a cherddwyr.

Mae llawer mwy i’r ardal fechan gymharol anadnabyddus hon o Ogledd Cymru. Defnyddiwch eich ‘satnav’ neu fap da a dilynwch y ddrysfa o lonydd gwledig i ddarganfod pentrefi megis Gwytherin yn nhawelwch Dyffryn Cledwen. Saif yr eglwys, sydd wedi’i chysegru i’r Santes Gwenffrewi, yng nghanol cylch cerrig hynafol. Mae traddodiad llenyddol cryf yn yr ardal, yn enwedig felly ym mhentref Llansannan ar lan Afon Aled. Ceir cofgolofn yn y pentref yn coffáu pump o wyr llên pwysig a anwyd yma rhwng y 15fed a’r 19eg ganrif. Mae dyffryn hardd a serth Afon Aled yn arwain i gyfeiriad y de i’r ucheldir a chronfa ddwr Llyn Aled, lle mae’r dyfroedd rhostirol mawnog yn enwog am eu draenogiaid, penhwyaid a chochiaid.

I gael rhagor o wybodaeth am atyniadau a mannau diddorol ar Fynydd Hiraethog ewch i Pentrefi Hiraethog a Llyn Brenig neu ewch i wefan Hiraethog.

Dod o hyd i lety ym Mhentrefi Dyffryn Elwy a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.

Uchafbwyntiau

Conwy Castle - Cadw, Welsh Government (Crown Copyright)/Cadw, Llywodraeth Cymru (Hawlfraint y Goron)

Castell Conwy

Ychwanegu Castell Conwy i'ch Taith

Wedi’i adeiladu ar gyfer y Brenin Edward I rhwng 1283 a 1287, mae cynllun Meistr...

Bodnant Garden, Tal y Cafn

Gerddi Bodnant

Ychwanegu Gerddi Bodnant i'ch Taith

Mae Gardd Bodnant ar safle dros 80 erw a dyma un o’r gerddi gorau ym Mhrydain. Yn y...

Bys a Bawd, Llanwrst

Bys a Bawd

Ychwanegu Bys a Bawd i'ch Taith

Siop sy’n rhoi croeso cynnes Cymreig i bobl leol ac i ymwelwyr yng nghanol tref...

Zip World Fforest

Zip World Fforest

Ychwanegu Zip World Fforest i'ch Taith

Mae Zip World Fforest, ger Betws-y-coed yn leoliad coetir eidylig ar gyfer eich holl...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.