To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Dyffryn Conwy yng Ngogledd Cymru

Dyffryn Conwy yng Ngogledd Cymru

Lliwiau hydrefol yng Ngardd Bodnant

Pentrefi Dyffryn Conwy

Yn gryno. Peidiwch â rhuthro drwy’r dyffryn – neu byddwch wedi mynd heibio llawer o’r pethau sydd i’w gweld.

Meddyliwch am Ddyffryn Conwy hardd fel ysbaid gwyrddlas toreithiog, yn y canol rhwng creigiau Eryri a rhostiroedd agored Mynydd Hiraethog. Mae’r ffermdiroedd, glannau’r afonydd a llethrau’r bryniau yn cynnwys nifer o bentrefi bychain gwasgaredig. O’r gogledd i’r de, dyma rai o’r uchafbwyntiau.

Yn Llansanffraid Glan Conwy, mae Afon Conwy yn lledu i gyfarfod â’r môr a cheir yma olygfeydd godidog ar draws yr aber i Gastell Conwy ac Eryri.  Gerllaw mae siambr gladdu Hendre Waelod, sy’n dyddio’n ôl i tua 3500CC, ac mae ei chapfaen enfawr yn gyfan o hyd.

Ystyrir pentref Rowen yn un o bentrefi prydferthaf Cymru, ac mae’n hawdd gweld pam. Mae’n bentref bychan, taclus – yn cynnwys ychydig fythynnod, tafarn a chapel yn unig. Perffaith! O’r fan hon gallwch deithio i gyfeiriad y bryniau gan gerdded ar hyd y Ffordd Rufeinig, neu beth am ymweld â Gerddi Dwr Conwy, lle ceir pysgodfa, canolfan ddwr a thy ymlusgiaid.

Saif Eglwysbach, pentref tlws arall, ymron iawn gyferbyn â Rowen yr ochr draw i’r dyffryn. Cadwch lygad am y jamborî blynyddol a gynhelir yma ym mis Awst, dywedir mai hon yw’r sioe amaethyddol a garddwriaethol bentref orau yng Ngogledd Cymru. Dafliad carreg o’r pentref mae Gardd Bodnant, seren arddwriaethol go iawn, ac yn atyniad y mae’n rhaid ymweld ag ef. Mae’r Ardd wedi dod yn fwy adnabyddus fyth yn ddiweddar ers i ddrysau Canolfan Bwyd Cymru Bodnant gael eu hagor.

Ymhellach i lawr y dyffryn, efallai yr hoffech fynd ar goll ym mhentref Dolgarrog – a hynny yn y ffordd orau posibl – yn Nrysle Dyffryn Conwy, sef ‘drysle gardd fwyaf y byd’ sy’n  ymestyn dros ddwy acer ac yn cynnwys sawl peth cudd annisgwyl yn cynnwys gardd löynnod byw, gardd drofannol a gardd Zen. Mae Dolgarrog a phentref cyfagos Tal-y-Bont yn ganolfannau da ar gyfer cerdded mynyddoedd y Carneddau a Llyn Eigiau.

Dod o hyd i lety yn Nyffryn Conwy a gweld pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn ardal.

Uchafbwyntiau

Belle Vue House Llandudno

Belle Vue House

Ychwanegu Belle Vue House i'ch Taith

Lleoliad delfrydol ar lan y môr ger mynedfa’r pier yn edrych dros y traeth ac yn...

Venue Cymru Llandudno

Venue Cymru

Ychwanegu Venue Cymru i'ch Taith

Theatr â 1500 o seddi .

Holcombe House Llandudno

Holcombe House

Ychwanegu Holcombe House i'ch Taith

Mae Holcombe House yn Westy Bach â phob cyfleuster, sydd ychydig funudau i ffwrdd...

Southbourne Guest House, Llandudno

Gwesty Bach Southbourne

Ychwanegu Gwesty Bach Southbourne i'ch Taith

Gwesty gwely a brecwast sydd wedi hen ennill ei blwyf, wedi'i redeg gan Margaret a...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.