To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Golygfa o Aber Afon Conwy o'r Castell

Conwy

Yn gryno. Un o’r trefi canoloesol gorau sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

Mae Conwy yn dref wirioneddol unigryw. Mae’r muriau hynafol mewn cyflwr arbennig o dda – y mwyaf cyflawn yn Ewrop – ac yn amgylchynu tref o strydoedd cul coblog, cilfachau a chorneli sy’n llawn dop o adeiladau hanesyddol. Ac nid dyna’r cwbl. Mae’r muriau’n ymledu o gastell grudiog, tywyll ei garreg sydd yn dal i greu awyrgylch gwirioneddol ganoloesol ac, wedi’r holl flynyddoedd, yn parhau i dra-arglwyddiaethu a chodi arswyd.

Roedd y castell, sy’n Safle Treftadaeth y Byd, yn ran allweddol o’r ‘gadwyn haearn’ o gestyll a adeiladwyd o amgylch Eryri yn y 13eg ganrif gan Edward I i ormesu’r Cymry. Mae’r golygfeydd o’r murfylchau yn ddigon o ryfeddod, saif mynyddoedd Eryri ar y naill llaw ac aber Afon Conwy ar y llall. O’r fan hon y cewch yr olygfa orau o’r dref a’r muriau’n ei hamgylchynu. Mae’r muriau dros dri chwarter milltir o hyd ac yn cynnwys 22 twr i warchod y dref.

Un o’r pethau y mae’n rhaid ei gwneud wrth ymweld â Chonwy yw cerdded ar hyd y muriau hyn, cyn mentro i’r strydoedd islaw i ymweld â mannau megis Ty Aberconwy (enghraifft brin o gartref marsiandwr o’r 14eg ganrif), Plas Mawr (y ty trefol gorau o oes Elizabeth sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig) a’r Ty Lleiaf (a oes lle i chi yno?). A beth am gwblhau eich gwers hanes drwy ymweld â Chanolfan Croeso Conwy i weld yr arddangosfa flaengar sy’n adrodd hanes Tywysogion Gwynedd.

Mae atyniadau eraill yn cynnwys oriel gelf yr Academi Frenhinol Gymreig a Phont Grog Thomas Telford. Cewch flas ar fywyd morwrol Conwy ar y cei – yn enwedig pan fydd Gwyl yr Afon yn ei hanterth yn ystod yr haf. Yn ôl yn y dref ceir amrywiaeth unigryw o siopau i’ch denu a’ch boddhau – o siop y cigydd arobryn i siopau dillad ffasiynol ac orielau.

Dod o hyd i lety yng Nghonwy a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.

Uchafbwyntiau

Bryn Derwen Guest House, Llandudno

Bryn Derwen

Ychwanegu Bryn Derwen i'ch Taith

Os ydych eisiau aros yn un o westai bach gorau Llandudno, yna Bryn Derwen yw’r lle i…

Lyons Pendyffryn Country Club

Parc Carafanau Lyons Pendyffryn Hall

Ychwanegu Parc Carafanau Lyons Pendyffryn Hall i'ch Taith

Wedi’i leoli rhwng Dyffryn Conwy a’r pentref Edwardaidd Penmaenmawr, mae Clwb…

Llandudno Hostel

Hostel Llandudno

Ychwanegu Hostel Llandudno i'ch Taith

Mae James a Melissa yn eich croesawu i’w hostel bwtîg, mewn tŷ tref Fictoraidd, yng…

Traeth Sandy Cove

Traeth Sandy Cove

Ychwanegu Traeth Sandy Cove i'ch Taith

Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel yn draeth tywod gwych sy’n wynebu’r gogledd gyda…

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.