To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Pont y Pair, Betws-y-Coed

Betws-y-Coed

Yn gryno. Cyrchfan fynyddig brysur a’r porth i Eryri.

Pwy ddywedodd fod Cymru ar gau ar y Sul? Ewch i Fetws-y-Coed ar unrhyw Sul yn y flwyddyn (yn cynnwys mis Rhagfyr) ac fe welwch bentref sy’n llawn bwrlwm ac ar agor i fusnes. Nid dim ond y siopau prysur, yn gwerthu nwyddau o offer awyr agored i grefftau cain, sy’n denu’r ymwelwyr. Teithwyr cynnar o oes Victoria oedd yn gyfrifol am osod Betws ar y map yn y lle cyntaf, roeddynt wrth eu bodd â’r lleoliad coediog hardd lle mae pedair afon fyrlymus yn cyfarfod. Y lleoliad arbennig hwn, nad yw wedi newid rhyw lawer ers y dyddiau hynny, yw’r prif atyniad heddiw hefyd.

Wrth gwrs, mae Betws ei hun wedi newid. Mae’n gyrchfan fynyddig brysur sy’n cynnig pob math o atyniadau a gweithgareddau. Mae yma amgueddfa reilffordd a Zip World FForest (mae’r enw yn awgrymu’r math o weithgareddau y gallwch eu gwneud yno). I ddarganfod mwy am fywyd y goedwig gallwch gerdded, marchogaeth a beicio mynydd yn llennyrch Coedwig Gwydyr. Mae gweithgareddau awyr agored eraill yn cynnwys canwio a sgrialu – ac os ydych am roi cynnig ar weithgareddau cyffrous tanddaearol mae’r rhain hefyd ar gael yng nghanolfan Go Below gerllaw.

Mae Betws-y-Coed yn fan cychwyn perffaith i grwydro Parc Cenedlaethol Eryri. Lleolir un o brif ganolfannau ymwelwyr y Parc yma, ac mae’n hawdd iawn gadael y car a neidio a mwynhau taith eco-gyfeillgar ar fws Sherpa’r Wyddfa. Byddwch yn teithio trwy gefn gwlad dramatig ymhen dim. Mae Rhaeadr Ewynnol, yn o fannau prydferth mwyaf adnabyddus Cymru, hefyd gerllaw. A chofiwch am y Ty Hyll, yr adeilad rhyfedd hwnnw a adeiladwyd o gerrig mawrion, di-siâp.

Dod o hyd i lety ym Metws-y-Coed a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.

Uchafbwyntiau

Oak Alyn

Oak Alyn

Ychwanegu Oak Alyn i'ch Taith

Gwesty bach deniadol, tawel sy’n cael ei redeg gan deulu. Y mae ar y gwastad wrth...

Kimberley Cottage, Llandudno

Bwthyn Kimberley

Ychwanegu Bwthyn Kimberley i'ch Taith

Mae’r bwthyn mawr hwn gyda thair ystafell wely wedi’i ddodrefnu’n wych ac wedi’i...

Glenthorne Guest House, Llandudno

Gwesty Bach Glenthorne

Ychwanegu Gwesty Bach Glenthorne i'ch Taith

Cewch groeso cynnes a chyfeillgar yn y Glenthorne. Mewn lleoliad tawel, ar y...

Sunnycroft

Sunnycroft

Ychwanegu Sunnycroft i'ch Taith

Mae Sunnycroft hanner ffordd rhwng Traeth y Gogledd a Phen Morfa, yn agos i’r holl...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.