To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Trefi a Phentrefi yng Ngogledd Cymru

Traeth tywodlyd Pensarn

Abergele a Phensarn

Yn gryno. Traeth tywodlyd tawel yn agos at anheddiad hanesyddol a bryniau coediog. 

Efallai eich bod yn gofyn, ‘pa un yw pa un?’. Nid oes unrhyw wahaniaeth, mewn gwirionedd, gan fod y naill yn arwain i’r llall. Pensarn yw ardal glan-môr Abergele. Mae’n draeth tywodlyd traddodiadol â phromenâd, peiriannau chwarae a chaffis. Ac oherwydd ei fod yn rhannu’r arfordir gogleddol â chymdogion mwy adnabyddus, nid yw’r traeth byth yn orlawn. Os ydych yn teimlo’n egnïol gallwch feicio neu gerdded ar y llwybr i gyfeiriad Bae Colwyn i’r gorllewin neu Fae Cinmel i’r dwyrain.

Abergele yw’r dref fechan ddiymhongar a saif i’r tir. Ond er ei bod yn ymddangos yn ‘ddiymhongar’, mae hynny ymhell o fod yn wir gan ystyried ei hanes. Mae’r bryniau uwchlaw’r dref yn frith o fryngeiri o Oes yr Haearn, ac yn ddiweddarach daeth yn dref fasnachu Rufeinig ac yn dref farchnad ganoloesol. Roedd Abergele hefyd yn gartref i fynachdy Celtaidd pwysig a leolid ar safle eglwys fawr Plwyf Sant Mihangel.

Mae’n ganolfan arbennig o dda ar gyfer teithio o amgylch Gogledd Cymru, gan ei bod yn agos at y prif gyrchfannau a rhostiroedd Mynydd Hiraethog. Saif bryniau coediog y tu hwnt i’r dref, sy’n codi hyd at tua 300m/1000 troedfedd, gan gynnig golygfeydd pell hyd at yr arfordir. Gallwch ddilyn sawl taith gerdded a bydd un ohonynt yn eich arwain i Allt Melin Wynt (178m/583 troedfedd), tybir mai twr gwylio yw hwn o oes Elizabeth a godwyd i warchod yr arfordir rhag môr-ladron.

Ymhlith y cyfleusterau lleol mae canolfan hamdden sy’n cynnwys pwll nofio a neuadd chwaraeon. Mae Clwb Golff Abergele yn gwrs 18-twll rhagorol a leolir ar barcdir. Fe’i hystyrir yn un o’r cyrsiau harddaf yng Nghymru, ac mae’n nodedig hefyd am ei leiniau gwyrdd, sych a’r ffaith y gellir chwarae arno gydol y flwyddyn.

Caiff rhywun ei demtio i ddweud fod sylw a ysgrifennwyd yn y 1870au am dref Abergele yr un mor berthnasol heddiw: ‘caiff ymwelwyr eu denu yma bob haf gan yr amrywiaeth o olygfeydd, ac yn arbennig felly gan ei thraethau nodedig.’

Dod o hyd i lety yn Abergele a Phensarn a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.

Uchafbwyntiau

Merrion Hotel, Llandudno

Merrion Hotel

Ychwanegu Merrion Hotel i'ch Taith

Mae’r teulu Bream yn eich croesawu chi i The Merrion Hotel, sydd ar y Promenâd yng...

Sunrise Apartments

Sunrise Apartments

Ychwanegu Sunrise Apartments i'ch Taith

Mae Sunrise Holiday Apartments wedi’u lleoli’n ganolig rhwng y ddwy lan, yn...

Sandy Cove Beach

Traeth Sandy Cove

Ychwanegu Traeth Sandy Cove i'ch Taith

Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel yn draeth tywod gwych sy’n wynebu’r gogledd gyda...

Tŷ Mair

Tŷ Mair

Ychwanegu Tŷ Mair i'ch Taith

A comfortably furnished 3 bedroom house, sleeping 5.

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.