Traeth Porth Eirias

Am

Yn 2013, gwelwyd prosiect gwerth miliynau o bunnoedd ar bromenâd Bae Colwyn, a fyddai’n rhoi bywyd newydd i lan môr y dref wyliau hanesyddol hon.

Defnyddiwyd technoleg o’r radd flaenaf i garthu bar tywod 20 milltir allan i’r môr a chario tunelli o dywod aur meddal yn ôl i ehangu a lledu’r lan.

Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau golygfeydd lan y môr o’r promenâd newydd a’i seddi deniadol ac ardaloedd wedi tirlunio.

Porth Eirias yw’r datblygiad eiconig yng nghanol y promenâd. Mae’n gartref i fistro’r cogydd enwog Bryn Williams gyda golygfeydd godidog dros y môr. Mae Môr Watersports hefyd wedi’u lleoli ym Mhorth Eirias, sy’n arbenigo mewn byrddau padlo ac ategolion nofio gwyllt.

Yn ystod yr haf mae Canolfan Groeso dros dro ym Mhorth Eirias. Dewch draw i siarad gyda’n tîm cyfeillgar a phori drwy ein dewis o grefftau Cymreig, gemwaith, cynnyrch lleol, llyfrau cerdded, canllawiau a mapiau.

Pethau i’w gwneud ar ac o amgylch traeth Porth Eirias:

Bydd plant wrth eu boddau ar y bwrdd syrffio, trawst balans a’r siglen fasged yn y maes chwarae ar flaen Porth Eirias;

Stopiwch i gael lluniaeth ym mistro Bryn Williams, neu hufen iâ o un o’r ciosgau;

Adeiladwch gastell tywod neu gallwch chwarae gemau traeth ar y tywod;

Gallwch feicio, cerdded neu loncian ar hyd y promenâd i Landrillo-yn-Rhos;

Ewch am dro ar hyd y pier newydd - Prosiect £1.5 miliwn i adsefydlu fersiwn llai o bier Bae Colwyn, a agorodd yn wreiddiol ym 1900;

Mae traeth Porth Eirias ychydig funudau ar droed o orsaf rheilffordd Bae Colwyn a chanol y dref.

Ac yn y dref, mae’n anodd rhestru popeth sydd ar gael i ymwelwyr eu mwynhau ym Mae Colwyn:

Mae yna lu o siopau annibynnol gwych ac mae amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd a gynhyrchir yn lleol ar gael;

Theatr Colwyn yw’r theatr a sinema hynaf sy’n dal i fod ar agor yng Nghymru, ac mae bellach wedi’i moderneiddio i gynnig man adloniant cyfoes ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain;

Mae gemau rygbi mawreddog, dau gwrs golff gerllaw a chanolfan hamdden anferth gyda gweithgareddau dŵr, cyfleusterau ffitrwydd a chanolfan ddigwyddiadau;

Neu fe allwch chi fynd am dro i edmygu pensaernïaeth Fictoraidd y dref a blaenau’r siopau ar Daith Gerdded Treftadaeth Bae Colwyn;

Os ydych chi’n chwilio am fannau gwyrdd, mae gan Barc Eirias 50 erw o barcdir yn ogystal â chyfleusterau awyr agored fel cae chwaraeon synthetig dan lifoleuadau, cyrtiau tenis, lawntiau bowlio, cae chwarae i blant a man picnic;

Mae Coed Pwllycrochan yn cynnig llwybrau cerdded a llwybrau natur wedi’u harwyddo;

Ac os oes gennych ddiddordeb mewn anifeiliaid, mae’r Sw Mynydd Cymreig - Sw Cenedlaethol Cymru - wedi’i leoli tu ôl i Fae Colwyn, yn cynnig golygfeydd panoramig ynghyd â theigrod, eirth a nifer o fywyd gwyllt egsotig eraill.

Does dim achubwr bywydau ar y traeth.

A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!

Cŵn ar y traeth

Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.

Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.

Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Caffi/bwyty ar y safle

Cyfleusterau Darparwyr

  • Toiledau

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i'r Teulu
  • Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Maes parcio

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Traeth Porth Eirias

Glan y môr

Porth Eirias, Colwyn Bay, Conwy, LL29 8HH

Ffôn: 01492 596253

Beth sydd Gerllaw

  1. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    0.28 milltir i ffwrdd
  2. Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i…

    0.41 milltir i ffwrdd
  1. Darganfyddwch sut datblygodd Bae Colwyn a dysgwch fwy am dreftadaeth hanesyddol a…

    0.56 milltir i ffwrdd
  2. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    0.82 milltir i ffwrdd
  3. Mae'r coetir amlwg hwn sy’n ymestyn ar draws y llethrau uwchben a’r tu ôl i dref Bae…

    0.94 milltir i ffwrdd
  4. Llandrillo-yn-Rhos yw cefnder sydêt Bae Colwyn. ** Mae gwaith yn cael ei wneud i…

    1.17 milltir i ffwrdd
  5. Mae’r gerddi hardd sy’n gartref i'r sŵ cadwraethol, gofalgar hwn wedi’u lleoli yn uchel…

    1.29 milltir i ffwrdd
  6. Mae Golff Gwyllt Rhos Fynach yn gwrs golff gwyllt 9 twll gwych, perffaith i’r teulu cyfan…

    1.49 milltir i ffwrdd
  7. Mae Bryn Euryn yn fryn calchfaen amlwg uwchben Llandrillo-yn-Rhos, efo golygfeydd da o'r…

    1.68 milltir i ffwrdd
  8. Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir…

    2.44 milltir i ffwrdd
  9. Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw…

    2.47 milltir i ffwrdd
  10. Mae traeth Bae Penrhyn ar Lwybr Arfordir Cymru ac mae yna lwybrau arfordirol hefyd i Fae…

    2.55 milltir i ffwrdd
  11. Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth…

    3.14 milltir i ffwrdd
Previous Next

Cysylltiedig

Bryn Williams at Porth EiriasBryn Williams ym Mhorth Eirias, Colwyn BayDafliad carreg o’r môr a thraeth hyfryd Porth Eirias y mae bistro Bryn Williams. Mae’r fwydlen yn llawn cynnyrch Cymreig sydd wedi cael ei gynhyrchu mor lleol â phosibl.

Môr - Water SportsMôr - Chwaraeon Dŵr, Colwyn BayGallwch brynu byrddau padl a byrddau syrffio, nofio mewn dŵr agored a phrynu Dillad Môr yn ein siop ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn.

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....