Traeth tywodlyd Llandrillo-yn-Rhos

Am

Mae Traeth Bae Colwyn (a elwir hefyd yn draeth Llandrillo-yn-Rhos) yn wych ar gyfer nofio, chwaraeon dŵr a physgota, ac ar gyfer beicio a cherdded ar hyd y trac arfordirol.

Llandrillo-yn-Rhos yw cefnder sydêt Bae Colwyn. Mewn gwirionedd, mae'r bae hir, tair milltir o hyd yn dechrau ar wal harbwr Rhos, golygfa lonydd o gychod yn siglo a thraeth o dywod a graean sy'n sicr o beidio â mynd yn rhy brysur o gwbl.

Atyniad arall yw Golff Gwyllt Rhos Fynach. Golff gwirion gyda thema forwrol llawn hwyl, gyda thyllau'n cynnwys ‘Y bwrdd syrffio’, ‘Penglog y Môr-ladron’ a ‘Llong danfor’.

Pethau i'w gwneud ar neu o gwmpas Traeth Bae Colwyn:

Mae’r darn o arfordir o Landrillo-yn-Rhos i Fae Colwyn a thu hwnt wedi gweld trawsnewid mawr gyda phrosiectau ac atyniadau newydd yn rhoi bywyd newydd i'r gyrchfan.

Mae'r datblygiad ar lan y dŵr Porth Eirias yn prysur ddod yn atyniad mawr ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae bistro newydd yn cael ei redeg gan y sieff a aned yn Ninbych, Bryn Williams ac ystod o hyfforddiant chwaraeon dŵr yn cael eu darparu gan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn.

Mae’r bae tywodlyd siâp cilgant yn edrych yn well nag erioed!

Mae traeth newydd dilychwin Bae Colwyn, rhan o brosiect Glan y Môr Bae Colwyn, wedi cynnwys mewnforio cyfeintiau Saharaidd o dywod ffres ac adnewyddwyd ac adfywiwyd y promenâd.

Rhai o’r atyniadau lleol yw Parc Eirias a’r Sw Fynydd Gymreig, ac mae llawer mwy o atyniadau a gweithgareddau yn yr ardal gyfagos ar gyfer ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau.

Does dim achubwr bywydau ar y traeth.

A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!

Cŵn ar y traeth

Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.

Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.

Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Cyfleusterau

Cyfleusterau Darparwyr

  • Toiledau

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i'r Teulu
  • Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Maes parcio

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Traeth Llandrillo-yn-Rhos/Bae Colwyn

Glan y môr

Colwyn Bay, Conwy, LL28 4EP

Ffôn: 01492 596253

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae Golff Gwyllt Rhos Fynach yn gwrs golff gwyllt 9 twll gwych, perffaith i’r teulu cyfan…

    0.46 milltir i ffwrdd
  2. Mae Bryn Euryn yn fryn calchfaen amlwg uwchben Llandrillo-yn-Rhos, efo golygfeydd da o'r…

    0.56 milltir i ffwrdd
  3. Darganfyddwch sut datblygodd Bae Colwyn a dysgwch fwy am dreftadaeth hanesyddol a…

    0.8 milltir i ffwrdd
  1. Mae’r gerddi hardd sy’n gartref i'r sŵ cadwraethol, gofalgar hwn wedi’u lleoli yn uchel…

    0.85 milltir i ffwrdd
  2. Mae'r coetir amlwg hwn sy’n ymestyn ar draws y llethrau uwchben a’r tu ôl i dref Bae…

    0.86 milltir i ffwrdd
  3. Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i…

    0.93 milltir i ffwrdd
  4. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    1.17 milltir i ffwrdd
  5. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    1.32 milltir i ffwrdd
  6. Mae traeth Bae Penrhyn ar Lwybr Arfordir Cymru ac mae yna lwybrau arfordirol hefyd i Fae…

    1.39 milltir i ffwrdd
  7. Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw…

    1.79 milltir i ffwrdd
  8. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    1.99 milltir i ffwrdd
  9. Trwyn y Fuwch yw’r pentir calchfaen i’r dwyrain o Landudno. Mae’n llai datblygedig na’i…

    2.2 milltir i ffwrdd
  10. Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn wlypdir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o…

    3.28 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....