Traeth Llanddulas

Am

Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth sy’n cysylltu gyda Bae Colwyn i’r gorllewin. Addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr, mae llwybr arfordirol a llwybr beicio rhwng y traeth hwn a Bae Colwyn. Mae yna doiledau ar draeth Llanddulas ac mae siop a thafarn yn y pentref cyfagos.

Mae lleoedd parcio ar gael ger y traeth, ac mae safle picnic ac ardal wersylla i’r rhai sy’n dymuno aros am gyfnod hwy.

Does dim achubwr bywydau ar y traeth.

A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!

Cŵn ar y traeth

Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.

Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.

Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Cyfleusterau

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i'r Teulu
  • Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Maes parcio

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Traeth Llanddulas

Glan y môr

Beach Road, Llanddulas, Abergele, Conwy, LL22 8HB

Ffôn: 01492 596253

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir…

    1.18 milltir i ffwrdd
  2. Croeso i’n Parc Fferm. Gwyliwch ras y moch, cyfarfod â’n hymlusgiaid, rhoi mwythau i…

    1.45 milltir i ffwrdd
  3. Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r…

    1.5 milltir i ffwrdd
  4. Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.

    1.59 milltir i ffwrdd
  1. Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol…

    2.1 milltir i ffwrdd
  2. Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol…

    2.27 milltir i ffwrdd
  3. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    2.53 milltir i ffwrdd
  4. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    3.14 milltir i ffwrdd
  5. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    3.19 milltir i ffwrdd
  6. Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i…

    3.54 milltir i ffwrdd
  7. Darganfyddwch sut datblygodd Bae Colwyn a dysgwch fwy am dreftadaeth hanesyddol a…

    3.7 milltir i ffwrdd
  8. Wedi bod yn dod â hwyl a chwerthin i wyliau’r haf ers dros 50 mlynedd, mae Knightly’s…

    3.99 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....