Traeth Abergele Pensarn

Am

Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol ar gyfer y promenâd, sydd hefyd yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. I fynd am dro hirach, dilynwch Lwybr Arfordir Gogledd Cymru, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r traeth ac sy’n ymestyn ar hyd yr arfordir i’r dwyrain ac i’r gorllewin.

Gall beicwyr ddod â’u beic gyda hwy a defnyddio’r llwybr beicio sy’n ffurfio rhan o Rwydwaith Beicio Gogledd Cymru sy’n rhedeg ar hyd yr arfordir o Bensarn i Landrillo-yn-Rhos.

Mae’r cyfleusterau sydd wedi’u lleoli ar hyd y promenâd yn cynnwys toiledau, siopau a chaffi tymhorol, yn ogystal â phwynt mynediad i’r traeth i bobl anabl.

Ym 1977, cafodd rhan o’r traeth ei neilltuo fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), i gydnabod yr ardal hon fel yr enghraifft orau o gefnen graean yn y wlad ac am ei hamrywiaeth eang a chyfoethog o blanhigion.

Mae nifer o’r rhywogaethau planhigion sy’n brin yng Ngogledd Cymru, megis Bresych y Môr, Canclwm a’r Bysedd Iâr Arforol, i’w gweld ar yr esgair graean. Ger y prif bwynt mynediad, ceir panel gwybodaeth sy’n disgrifio pwysigrwydd y gefnen graean hon a rhai o’r rhywogaethau planhigion y gellir eu gweld.

Mae’r gweithgareddau a gynhelir yma yn cynnwys syrffio a chanŵio.

Does dim achubwr bywydau ar y traeth.

A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!

Cŵn ar y traeth

Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.

Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.

Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Cyfleusterau

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i'r Teulu
  • Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored

Map a Chyfarwyddiadau

Traeth Abergele Pensarn

Glan y môr

Promenade, Abergele, Conwy, LL22 7PP

Ychwanegu Traeth Abergele Pensarn i'ch Taith

Ffôn: 01492 596253

Beth sydd Gerllaw

  1. Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol…

    0.27 milltir i ffwrdd
  2. Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.

    0.56 milltir i ffwrdd
  3. Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r…

    1.06 milltir i ffwrdd
  1. Croeso i’n Parc Fferm. Gwyliwch ras y moch, cyfarfod â’n hymlusgiaid, rhoi mwythau i…

    1.1 milltir i ffwrdd
  2. Wedi bod yn dod â hwyl a chwerthin i wyliau’r haf ers dros 50 mlynedd, mae Knightly’s…

    1.98 milltir i ffwrdd
  3. Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth…

    2.1 milltir i ffwrdd
  4. Am rywbeth ychydig yn wahanol beth am y wefr o rasio harnes arddull Americanaidd yn Nhir…

    2.42 milltir i ffwrdd
  5. Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda…

    2.93 milltir i ffwrdd
  6. Mae Twyni Cinmel yn rhoi cyfle i chi gerdded neu feicio drwy system dwyni tywod…

    3.04 milltir i ffwrdd
  7. Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir…

    3.08 milltir i ffwrdd
  8. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    4.61 milltir i ffwrdd
  9. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    5.24 milltir i ffwrdd
  10. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    5.28 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....