Llwybr Arglwyddes Fair

Am

Os oes awydd arnoch daith hamddenol yn ôl i’n gorffennol canoloesol yna mae Taith y Fonesig Fair trwy Goedwig Gwydyr yn berffaith ar eich cyfer. Ar y daith hanesyddol ceir golygfeydd anhygoel o hen dref marchnad Llanrwst ac fe’ch cyflwynir i rai o’r cymeriadau lleol sydd wedi gadael eu hôl ar yr ardal dros y canrifoedd.

Ar ôl parcio ym Maes Parcio’r Bont Fawr ger pont hanesyddol Llanrwst, bydd y daith yn eich arwain ar hyd lan Afon Conwy cyn dringo i fyny at Gwydyr Uchaf ac at gerfluniau derw tal sy’n deyrnged i Dafydd ap Siencyn - ein fersiwn ni'r Cymry o’r cymeriad Robin Hood. Yna, bydd y daith yn eich arwain at y lawnt fowlio hanesyddol lle cewch weld sut yr oedd Syr John Wynn o Wydyr yn diddanu ei westeion pwysig 400 mlynedd yn ôl (dyma le penigamp i gael picnic, yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dychmygu eich bod yn bwyta gyda boneddigion o’r cyfnod canoloesol) cyn cerdded yn ôl i lawr am Gwydyr Uchaf lle bydd cyfle i edrych ar yr hyn sy’n weddill o’r gerddi cyhoeddus.

Am brofiad sy’n siŵr o godi gwrychyn, ychwanegwch ddimensiwn arall i’ch taith gerdded trwy lawrlwytho ein taith sain - a chael cwmni’r Fonesig Mair, ac ysbrydion ei chyndadau a Dafydd ap Siencyn a’i helwyr, wrth i chi gerdded a dysgu am hanes lliwgar Llanrwst a Syr John Wynn o Wydyr.

Cyfleusterau

Nodweddion Darparwr

  • Croesawgar i gŵn
  • Yn y wlad

Suitability

  • Families

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Taith Sain Llwybr Arglwyddes Fair ar MP3

Llwybr Cerdded

Gwydir Forest, Llanrwst, Conwy, LL26 0PL

Beth sydd Gerllaw

  1. Eglwys hanesyddol Gradd I a godwyd yn 1470, sy’n edrych dros afon Conwy yng nghanol…

    0.15 milltir i ffwrdd
  2. Mae Castell Gwydir yn dŷ Cymreig hynafol yn harddwch Dyffryn Conwy, ar odre Eryri. Caiff…

    0.22 milltir i ffwrdd
  3. Dechreuwyd gwaith adeiladu’r capel ym 1673, ac mae tu allan carreg syml y capel yn rhoi…

    0.32 milltir i ffwrdd
  4. Mae Zip World Fforest wedi’i leoli yng nghanol harddwch Dyffryn Conwy, ychydig y tu allan…

    2.5 milltir i ffwrdd
  1. Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae…

    2.87 milltir i ffwrdd
  2. Mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd. Treuliwch…

    2.94 milltir i ffwrdd
  3. Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n…

    3.04 milltir i ffwrdd
  4. Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghanol Eryri. Mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i…

    3.26 milltir i ffwrdd
  5. Cymdeithas Eryri sy’n gofalu am Tŷ Hyll. Mae pwy adeiladodd y tŷ a phryd yn parhau’n…

    3.48 milltir i ffwrdd
  6. Teithiau trwy 9.5 erw o goedwig gynhenid at raeadr drawiadol Conwy. Mynediad ar hyd tir…

    4.94 milltir i ffwrdd
  7. Cartref plentyndod Syr Henry Jones (1852-1922) yw’r amgueddfa. Ganwyd Syr Henry Jones i…

    5.9 milltir i ffwrdd
  8. Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn…

    5.96 milltir i ffwrdd
  9. Yn ymestyn dros 80 erw ac â mwy na 250 o flynyddoedd o hanes garddwriaethol, mae Gardd…

    6.82 milltir i ffwrdd
  10. Mae Capel Seion yn enghraifft wych o gapel traddodiadol Cymreig a adeiladwyd yn ystod oes…

    7.05 milltir i ffwrdd
  11. Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol. ​​​​​Mae Dolwyddelan mor Gymreig…

    7.08 milltir i ffwrdd
  12. Mae gan Erddi Dŵr Conwy a’r Tŷ Crempog bopeth. Yn Rowen, caiff y teulu cyfan ei ddiddanu,…

    7.34 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....