Tai a chefn gwlad o amgylch Mynydd Marian

Am

Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw, yn ogystal â mynyddoedd Eryri a Bryniau Clwyd yn y pellter. Mae planhigion y glaswelltir o ddiddordeb arbennig ac os dewch chi yma ar ddechrau’r haf (Mai /Mehefin) fe welwch chi arddangosfa hardd o degeirianau a blodau glaswelltir eraill. Mae Mynydd Marian wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei fod yn gartref i lawer o blanhigion ac anifeiliaid prin. Yma fe welwch chi blanhigion fel y cor-rosyn lledlwyd, pumnalen y gwanwyn, a’r pawrwelltau sy’n sefyll i fyny ac yn symud yn y gwynt, yn ogystal â’r glöyn byw glesyn serennog.

Ar ben Mynydd Marian mae Telegraph House a adeiladwyd yn 1841. Roedd y Telegraph House yn un o ddeuddeg o orsafoedd telegraff rhwng Caergybi a Lerpwl - a oedd yn trosglwyddo gwybodaeth i Ddociau Lerpwl am y llongau a oedd yn dynesu. Yr amser cyflymaf y bu i neges gael ei throsglwyddo a’i hateb yw 53 eiliad! Erbyn heddiw mae'r Telegraph House yn gartref preifat. Dydi Mynydd Marian ddim yn bell iawn o Lwybr Gogledd Cymru ac mae’n werth i chi fynd yno - yn arbennig i weld y golygfeydd godidog! Gyda maes parcio lle gallwch chi barcio am ddim, mae Mynydd Marian hefyd yn fan cychwyn da i fynd am dro ac archwilio’r cefn gwlad cyfagos.

Lawrlwythwch taflen Mynydd Marian i weld mapiau a llwybrau cerdded ac i ddysgu mwy am fywyd gwyllt a hanes yr ardal hon.

Cyfleusterau

Arall

  • Croesewir Cerddwyr

Arlwyo

  • Safle Picnic

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored
  • Croesawgar i gŵn
  • Yn y wlad

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Maes parcio

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Fideo

  • Fideo Mynydd Marian

Mynydd Marian

Gwarchodfa Natur

Bron y Llan, Llysfaen, Colwyn Bay, Conwy, LL29 8SP

Beth sydd Gerllaw

  1. Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth…

    1.18 milltir i ffwrdd
  2. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    1.67 milltir i ffwrdd
  3. Croeso i’n Parc Fferm. Gwyliwch ras y moch, cyfarfod â’n hymlusgiaid, rhoi mwythau i…

    2.15 milltir i ffwrdd
  4. Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r…

    2.2 milltir i ffwrdd
  1. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    2.39 milltir i ffwrdd
  2. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    2.44 milltir i ffwrdd
  3. Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.

    2.54 milltir i ffwrdd
  4. Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i…

    2.8 milltir i ffwrdd
  5. Darganfyddwch sut datblygodd Bae Colwyn a dysgwch fwy am dreftadaeth hanesyddol a…

    2.96 milltir i ffwrdd
  6. Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol…

    3.08 milltir i ffwrdd
  7. Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol…

    3.2 milltir i ffwrdd
  8. Mae'r coetir amlwg hwn sy’n ymestyn ar draws y llethrau uwchben a’r tu ôl i dref Bae…

    3.27 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....