Beicwyr ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 ym Mae Colwyn

Am

Mae rhan Sir Conwy o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn mynd â chi ar hyd yr arfordir. Byddwch yn beicio drwy’r trefi canlynol:

•  Y Rhyl
•  Bae Cinmel
•  Abergele
•  Bae Colwyn
•  Llandrillo-yn-Rhos
•  Llandudno
•  Conwy
•  Penmaenmawr
•  Llanfairfechan.

Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn mynd â chi oddi ar y ffordd fawr, gyda rhan fer ar y ffordd yng Nghonwy cyn i chi droi am lan y môr. Mae’r llwybr wedyn yn mynd â chi ar y ffordd ac i’r gorllewin ar hyd yr arfordir drwy drefi glan y môr Penmaenmawr a Llanfairfechan.

Ar hyd y llwybr sy’n mynd â chi i Gonwy drwy Landudno, fe gewch chi olygfeydd godidog o Afon Conwy a Chastell Conwy.  Mae yna hefyd lwybr cyswllt i Warchodfa Natur RSPB Conwy yng Nghyffordd Llandudno.

Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr sydd oddi ar y ffordd fawr hefyd yn addas i gerddwyr a phobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Ac, os ydych chi’n teimlo’n llwglyd neu’n sychedig, mae yna ddigon o lefydd yn gwerthu lluniaeth ar hyd y llwybr.

Pan gyrhaeddwch chi dref Llanfairfechan, mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn mynd â chi i’r gorllewin i ddinas Bangor.

Cyfleusterau

Nodweddion Darparwr

  • Arfordirol
  • Mewn tref/canol dinas

Suitability

  • Families

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 - Sir Conwy

Llwybr Beicio

Holyhead - Chester, Conwy

Beth sydd Gerllaw

  1. Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol…

    0.12 milltir i ffwrdd
  2. Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol…

    0.28 milltir i ffwrdd
  3. Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.

    0.77 milltir i ffwrdd
  1. Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r…

    1.19 milltir i ffwrdd
  2. Croeso i’n Parc Fferm. Gwyliwch ras y moch, cyfarfod â’n hymlusgiaid, rhoi mwythau i…

    1.23 milltir i ffwrdd
  3. Wedi bod yn dod â hwyl a chwerthin i wyliau’r haf ers dros 50 mlynedd, mae Knightly’s…

    1.82 milltir i ffwrdd
  4. Am rywbeth ychydig yn wahanol beth am y wefr o rasio harnes arddull Americanaidd yn Nhir…

    2.23 milltir i ffwrdd
  5. Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth…

    2.35 milltir i ffwrdd
  6. Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda…

    2.78 milltir i ffwrdd
  7. Mae Twyni Cinmel yn rhoi cyfle i chi gerdded neu feicio drwy system dwyni tywod…

    2.88 milltir i ffwrdd
  8. Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir…

    3.3 milltir i ffwrdd
  9. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    4.85 milltir i ffwrdd
  10. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    5.49 milltir i ffwrdd
  11. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    5.53 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....