Coed Pwllycrochan

Am

Mae'r coetir amlwg hwn sy’n ymestyn ar draws y llethrau uwchben a’r tu ôl i dref Bae Colwyn yn hawdd cyrraedd ato o'r llwybr beicio arfordirol, Sw Mynydd Gogledd Cymru a Phorth Eirias.

Mae'r coed bron i gyd yn rhai collddail ac mae amrywiaeth o goed brodorol a rhywogaethau egsotig fel castanwydd a phinwydd. Mae coed ffawydd, derw a chastanwydd aeddfed trawiadol yn rhoi cymeriad i'r coetir ac mae dwy afon yn creu nodwedd ddeniadol wrth iddynt droelli drwy'r glynnoedd dwfn yn rhan hynafol y goedwig.

Mae’r adar y gellir eu gweld a'u clywed yn cynnwys sgrech y coed, y bwncath, cnocell y cnau, y gnocell fraith fwyaf, dringwr bach, a'r dylluan frech.

Mae King’s Drive a Llanrwst Road yn rhannu'r coetir 21 hectar yn dair rhan.

Mae panelau dehongli yn y mynedfeydd yn rhan ganol y coetir ac mae'r rhain yn helpu i esbonio ei hanes diweddar, rhai o'r coed, ffyngau a bywyd gwyllt sydd i'w gweld yn ogystal â dangos nifer o lwybrau cylchol y gellir eu dilyn.

Lawrlwythwch daflen Pwllycrochan am fapiau o’r llwybrau, gwybodaeth am fywyd gwyllt a chanllawiau.

Cyfleusterau

Arall

  • Croesewir Cerddwyr

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored
  • Croesawgar i gŵn
  • Lleoliad Coedwig

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Coed Pwllycrochan

Gwarchodfa Natur

Pwllycrochan Avenue, Colwyn Bay, Conwy, LL29 7BW

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae’r gerddi hardd sy’n gartref i'r sŵ cadwraethol, gofalgar hwn wedi’u lleoli yn uchel…

    0.38 milltir i ffwrdd
  2. Darganfyddwch sut datblygodd Bae Colwyn a dysgwch fwy am dreftadaeth hanesyddol a…

    0.4 milltir i ffwrdd
  3. Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i…

    0.53 milltir i ffwrdd
  1. Llandrillo-yn-Rhos yw cefnder sydêt Bae Colwyn. ** Mae gwaith yn cael ei wneud i…

    0.86 milltir i ffwrdd
  2. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    0.88 milltir i ffwrdd
  3. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    0.94 milltir i ffwrdd
  4. Mae Bryn Euryn yn fryn calchfaen amlwg uwchben Llandrillo-yn-Rhos, efo golygfeydd da o'r…

    1.1 milltir i ffwrdd
  5. Mae Golff Gwyllt Rhos Fynach yn gwrs golff gwyllt 9 twll gwych, perffaith i’r teulu cyfan…

    1.32 milltir i ffwrdd
  6. Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw…

    1.53 milltir i ffwrdd
  7. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    1.6 milltir i ffwrdd
  8. Mae traeth Bae Penrhyn ar Lwybr Arfordir Cymru ac mae yna lwybrau arfordirol hefyd i Fae…

    2.08 milltir i ffwrdd
  9. Trwyn y Fuwch yw’r pentir calchfaen i’r dwyrain o Landudno. Mae’n llai datblygedig na’i…

    2.79 milltir i ffwrdd
  10. Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn wlypdir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o…

    2.94 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....