Castell Conwy gyda Phont Grog Telford i'r chwith o'r ddelwedd

Am

Yn gryno. Nid yw teithio drwy amser erioed wedi bod yn haws.

Nid hap a damwain yw presenoldeb tywyll, mewnblyg Castell Conwy.

Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y bwriad oedd dominyddu a brawychu - ac mae’n dal i wneud ei waith, gan gystadlu â gorwelion garw Eryri ac ennill y frwydr am ein sylw.

A oes castell arall yng Nghymru sy'n dwyn i gof awyrgylch yr oesoedd canol cystal?

Nid ydym yn credu bod.. Ac rydyn ni'n meddwl y byddwch chi'n cytuno pan fyddwch chi'n dringo i fyny at y tyrau sy'n ymddangos fel pe baent yn tarddu'n naturiol o'r graig dywyll y cawsant eu hadeiladu arnynt.

Mae wyth i gyd, sy’n meddu ar olygfeydd syfrdanol ar draws aber afon Conwy ac i lawr i Gonwy ei hun, wedi'u cuddio fel tref deganau yng nghysgod y gaer.

Mae'r un mor werth chweil wrth i chi edrych y tu mewn i esgyrn y gaer ei hun.

Ar wahân i absenoldeb toeau, mae'r tu mewn yn gyfan i raddau helaeth, yn enwedig y Neuadd Fawr fawreddog 40m/130 troedfedd ac Ystafelloedd y Brenin.

Nid yw’n syndod bod Castell Conwy yn un o gestyll mawr Ewrop yr Oesoedd Canol.

Mae’r gaer yn Safle Treftadaeth y Byd, ynghyd â gogoniant hanesyddol eithriadol arall Conwy - ei chylch tri chwarter milltir o furiau’r dref, sy’n amgáu’r drefgordd wreiddiol o strydoedd cul yn llwyr.

Wedi'u hamddiffyn gan ddim llai na 21 tŵr a thri phorth maent - fel y castell - ymhlith y gorau o'u math yn Ewrop.

A'r newyddion da yw y gallwch chi ddal i ddilyn yn ôl traed y gwarcheidwaid o'r blaen, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r wal ar agor i'r cyhoedd.

Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.

Cyfleusterau

Cyfleusterau Darparwyr

  • Siop
  • Toiledau
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
  • Yn derbyn partïon bysiau

Deunydd Argraffedig mewn Ieithoedd Arall

  • Deunydd Argraffedig Cymraeg

Dulliau Talu

  • Derbynnir Grwpiau
  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Caniateir Cw^n Cymorth
  • Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
  • Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl

Ieithoedd a siaredir

  • Siaredir Cymraeg

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i'r Teulu
  • Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored
  • Mewn tref/canol dinas

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Maes parcio

Teithiau ac Arddangosiadau

  • Derbynnir Ymweliadau Addysgiadol

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Castell Conwy

Castell / Caer

Castle Street, Conwy, Conwy, LL32 8AY

Ffôn: 03000 252239

Amseroedd Agor

* Gweler y wefan am oriau agor.

Beth sydd Gerllaw

  1. Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares,…

    0.05 milltir i ffwrdd
  2. Neidiwch ar fwrdd y Queen Victoria am fordaith i weld golygfeydd i fyny’r afon Conwy tuag…

    0.06 milltir i ffwrdd
  3. Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes…

    0.08 milltir i ffwrdd
  4. Cerddwch dros yr Afon Conwy ar Bont Grog Thomas Telford, gyda golygfa o Gastell Conwy,…

    0.09 milltir i ffwrdd
  1. Lawrlwythwch y daflen hon am ddim a dechrau eich antur 80 munud drwy un o'r trefi…

    0.12 milltir i ffwrdd
  2. Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Lleolir yng Nghonwy, cartref un o…

    0.18 milltir i ffwrdd
  3. Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng…

    0.18 milltir i ffwrdd
  4. Porth Diwylliannol i Sir Conwy - Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy dafliad carreg oddi wrth…

    0.24 milltir i ffwrdd
  5. Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan…

    0.38 milltir i ffwrdd
  6. Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn wlypdir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o…

    0.84 milltir i ffwrdd
  7. Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a…

    1 milltir i ffwrdd
  8. Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant…

    2 milltir i ffwrdd
  9. Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw…

    2.23 milltir i ffwrdd
  10. Trên Bach Penmorfa: gall hen ac ifanc ill dau fwynhau taith y tu ôl i locomotifau stêm a…

    2.54 milltir i ffwrdd
  11. Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth…

    2.8 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....