To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Orielau yng Ngogledd Cymru

Orielau yng Ngogledd Cymru

MOSTYN - prif oriel gelf gyfoes Cymru

Celfyddydau ac Adloniant

Yn gryno. Edrych yn dda, swnio’n dda.

Rydym yn cynnig amrywiaeth hudolus o gelf gyfoes ac adloniant i’r teulu, gwaith arlunwyr mawr a chomedi ysgafn, cynyrchiadau yn cynnwys enwogion, y ffilmiau sinema diweddaraf a rhaglen lawn o wyliau a digwyddiadau.

Mae’r tyrfaoedd yn heidio i Venue Cymru Llandudno. Ac nid yw hynny’n syndod. Mae’r enw’n dweud y cyfan – dyma brif theatr Gogledd Cymru, lleoliad aml-ddefnydd mewn adeilad trawiadol ar lan y môr,  lle gallwch fwynhau rhaglen o adloniant di-dor yn amrywio o opera i gomedi, o ddawns i ddrama ac o fandiau byw i bantomeim traddodiadol.

Tybir mai Theatr Colwyn yw un o’r theatrau hynaf sy’n parhau ar agor yng Nghymru, ac mae hefyd yn cynnig rhaglen eang o gynyrchiadau. Yn sicr, dyma sinema hynaf Cymru, yn dyddio o 1909 – ac un o’r mwyaf blaengar hefyd, gan ei fod bellach yn ddigidol (llywydd y theatr, ac un o’i chefnogwyr mwyaf brwd, yw Terry Jones, cyn-aelod o griw ‘Monty Python’ a anwyd ym Mae Colwyn).

Mae’r dechnoleg ddiweddaraf ar waith hefyd yng nghanolfan sinema 9-sgrîn Cineworld yng Nghyffordd Llandudno, ffefryn arall sy’n denu cynulleidfaoedd mawr.

I’r rheini sy’n mwynhau celf, mae gennym ddigonedd o orielau yma hefyd. Beth am ymweld â MOSTYN yn Llandudno, prif oriel gelf gyfoes Cymru, neu’r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy lle rhoddir blaenoriaeth i waith artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Oriel Ffin y Parc, ar gyrion Llanrwst, yw un o orielau celf gain fasnachol mwyaf cyffrous Cymru, ac yn Oriel Gymunedol Bae Colwyn gallwch fwynhau arddangosfeydd gan artistiad lleol mewn lleoliad proffesiynol.

Uchafbwyntiau

Oak Alyn

Oak Alyn

Ychwanegu Oak Alyn i'ch Taith

Gwesty bach deniadol, tawel sy’n cael ei redeg gan deulu. Y mae ar y gwastad wrth...

Kimberley Cottage, Llandudno

Bwthyn Kimberley

Ychwanegu Bwthyn Kimberley i'ch Taith

Mae’r bwthyn mawr hwn gyda thair ystafell wely wedi’i ddodrefnu’n wych ac wedi’i...

Glenthorne Guest House, Llandudno

Gwesty Bach Glenthorne

Ychwanegu Gwesty Bach Glenthorne i'ch Taith

Cewch groeso cynnes a chyfeillgar yn y Glenthorne. Mewn lleoliad tawel, ar y...

Sunnycroft

Sunnycroft

Ychwanegu Sunnycroft i'ch Taith

Mae Sunnycroft hanner ffordd rhwng Traeth y Gogledd a Phen Morfa, yn agos i’r holl...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.