Parc Gwledig y Gogarth
Yn gryno. Mynydd bach Llandudno, yn gyforiog o hanes naturiol a bywyd gwyllt
Mae’n anodd iawn methu’r Gogarth. Dyna fo, ar ben draw’r promenâd, yn taflu’i gysgod dros bier hiraf Cymru. Craig galchfaen anferth yw pentir y Gogarth, sy’n codi 207m/679troedfedd o’r môr. Ystyr yr enw Saesneg ‘Great Orme’, a roddwyd ar y lle gan y Llychlynwyr, yw ‘anghenfil y môr’.
Efallai ei fod yn fawr ac yn feiddgar, ond mae’n le cyfeillgar iawn hefyd, ac yn ffefryn ymhlith ymwelwyr i Landudno ynghyd â Pwnsh a Jwdi a’r asynnod ar y traeth. Neidiwch ar y car cebl neu Dramffordd y Gogarth a byddwch ar y copa ymhen dim (gallwch gerdded neu yrru hefyd), lle gallwch ymweld â’r Ganolfan Ymwelwyr (ar gau yn y gaeaf).
Dyma’r man cychwyn gorau er mwyn darganfod mwy am ddaeareg, archaeoleg, bywyd gwyllt a hanes y pentir godidog hwn, y credir ei fod dros 350 miliwn o flynyddoedd oed. Mae pwysigrwydd arbennig y Gogarth yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith ei fod yn Barc Gwledig, Ardal Cadwraeth Arbennig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Arfordir Treftadaeth.
Mae’r gwahanol gynefinoedd, sy’n amrywio o rostiroedd cyfoethog i glogwyni serth, o laswelltir calchfaen i goetir, yn cynnal amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt. Mae rhai rhywogaethau yn brin iawn – brain coesgoch, er enghraifft – ac mae eraill, megis glöyn byw y glesyn serennog, yn unigryw i’r Gogarth. Nid ydych yn debygol o gael unrhyw anhawster i adnabod y trigolion mwyaf adnabyddus, sef y geifr gwyllt Cashmiri â’u cotiau gwyn blewog a’u cyrn arswydus.
Dilynwch y llwybr natur o Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth, gan oedi yma ac acw i ddysgu mwy am hanes difyr y Gogarth. Cofiwch ymweld â Mwynglawdd Copr Hynafol y Gogarth, mwynglawdd copr mwyaf y byd sy’n dyddio o’r Oes Efydd.
A beth am ddewis y ffordd gyflymaf yn ôl i’r dref? Gallwch sgïo, eirafyrddio, mynd ar eira-diwb neu dobogan o Lethr Sgïo a Chanolfan Eirafyrddio Llandudno (does dim angen eira).