Gweithgareddau Anturus
Yn gryno. I ffwrdd â ni – uwchben ac o dan y ddaear
Beth am siglo o goeden i goeden fel Tarzan gynt. Neu beth am abseilio neu ddringo rhaeadrau tanddaearol mewn hen chwarel lechi.
Gallwn gynnig profiadau cyffrous iawn i’r rhai hynny sydd wrth eu boddau â gweithgareddau anturus. Yn ardal Betws-y-Coed gallwch roi cynnig ar bob math o sialensau awyr agored. Yng nghanolfan Zip World Fforest gallwch ddringo ar raffau uchel o amgylch y rhwystrau, heb boeni am ddisgyn – neu beth am roi cynnig ar naid barasiwt uchaf y byd. Mae’r criw yng nghanolfan Tree Top yn gwybod popeth sydd angen ei wybod am weithgareddau anturus – taith weiren wib hiraf Ewrop yw eu menter ddiweddaraf, a leolir ym Methesda.
Betws yw lleoliad Ultimate High, sy’n cynnig dewis eang o brofiadau mynydda, dringo a sgrialu i ddechreuwyr a dringwyr profiadol, dan oruchwyliaeth tywyswyr.
Gallwch fwynhau gogoniant tirlun creigiog Eryri yn Nolwyddelan, lle mae cwmni Welsh Rock Climbing yn manteisio i’r eithaf ar leoliadau mwyaf cyffrous ond hygyrch yr ardal i gynnal gweithgareddau dringo ac abseilio.
Dringo tanddaearol sydd ar yr arlwy mewn lleoliad arall yn Eryri. Mae cwmni Go Below Underground Adventures ger Betws-y-Coed yn cynnig teithiau tywysedig cyffrous tanddaearol mewn hen chwarel lechi. Gallwch abseilio, sgrialu, dringo rhaeadr a theithio mewn cwch ac ar hyd weiren wib – y cyfan o dan y ddaear.
I fwynhau sesiynau pledu paent cyffrous a realistig a gweithgareddau hwyliog eraill ewch i Adventure Paintballing, Abergele. Draw yng Ngherrigydrudion, gallwch fwynhau cyffro byd y ceir cyflym gan wibgertio ar gylchffordd fwyaf Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.