To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:
Gwylio Fideo Cuddio Fideo

Llandudno, Conwy a mwy – y gorau o Ogledd Cymru

Croesi i wefan Twristiaeth  Llandudno a Chonwy. Rydym wedi gwneud ein gorau glas i greu gwefan sy’n edrych yn dda ac sy’n hawdd ei defnyddio. Cofiwch, mae gennym lawer i’w gynnwys. Yn yr ardal hon, gallwn gynnig gwyliau byr a gwyliau hirach at ddant pawb. Mae gennym draethau Baner Las, cestyll Treftadaeth Byd, theatrau gwych, sw gadwraethol rhyfeddol, cyrsiau golff o’r radd flaenaf, mynyddoedd mawreddog a dyffrynnoedd gwyrddlas, dewis o fwytai anhygoel a rhestr gynhwysfawr o weithgareddau awyr agored. A dyna roi blas i chi yn unig o’r hyn sydd i ddod.

Mae ein gwefan hwylus yn cynnwys celf a diwylliant hefyd, cyngor ar deithio a gwybodaeth i ymwelwyr, atyniadau, gwyliau, digwyddiadau ac adloniant – ynghyd â phob math o lety, o westai moethus i wyliau hunan-ddarpar, o westai bychain i fythynnod gwyliau ac o westai gwely a brecwast i barciau carafanau.

Gyda chymorth y wefan hon byddwch yn darganfod y gorau o Ogledd Cymru, oherwydd rydym yn cynnwys mwy na threfi Llandudno a Chonwy yn unig. Mae ein hardal yn ymestyn ar hyd arfordir tywodlyd Gogledd Cymru i gynnwys cyrchfannau glan-môr megis Bae Colwyn. Ac rydym yn mentro i’r tir, ar hyd Dyffryn Conwy i gyrchfan fynyddig boblogaidd Betws-y-Coed ger y porth i Eryri, gan oedi yn nhrefi marchnad a rhostiroedd a llynnoedd llai cyfarwydd Mynydd Hiraethog ar hyd y daith.

Ceir yma draethau tywodlyd a mynyddoedd godidog, cyrchfannau poblogaidd a phentrefi diarffordd, cyngor ar lefydd i aros a siopa, chwaraeon a gweithgareddau ar dir sych ac ar ddwr, llwybrau cerdded a bywyd gwyllt. Mae’r cyfan yma.

Dewch i gael golwg.

Peidiwch â methu

Surf Snowdonia

Her Taith Broffesiynol Surf Snowdonia

Ychwanegu Her Taith Broffesiynol Surf Snowdonia i'ch Taith

Am yr ail flwyddyn bydd Surf Snowdonia yn croesawu'r UK Pro Surf Tour Challenge i Ddolgarrog -...

DEWCH I FWYNHAU...

Zip World Fforest

Zip World Fforest

Mae Zip World Fforest, ger Betws-y-coed yn leoliad coetir eidylig ar gyfer eich holl ddymuniadau...

Bodnant Garden, Tal y Cafn

Gerddi Bodnant

Mae Gardd Bodnant ar safle dros 80 erw a dyma un o’r gerddi gorau ym Mhrydain. Yn y gwanwyn mae...

Smallest House - Conwy

Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain

Mae’r Tŷ yn 72 modfedd o led a 122 modfedd o uchder a chafodd ei breswylio hyd at 1900. Y tenant...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.

MWY O UCHAFBWYNTIAU...

Conwy RSPB Nature Reserve, Llandudno

Gwarchodfa Natur yr RSPB

Ychwanegu Gwarchodfa Natur yr RSPB  i'ch Taith

Ewch yn agosach at natur yn y werddon gwlyptir hwn gerllaw afon Conwy. Taith gerdded dawel neu...

Pensychnant Nature Conservation Centre, Sychnant Pass, Conwy

Canolfan Cadwraeth a Gwarchod Natur Pensychnant

Ychwanegu Canolfan Cadwraeth a Gwarchod Natur Pensychnant i'ch Taith

Mae Pensychnant yn gweithio gyda llawer o naturiaethwyr lleol a sefydliadau bywyd gwyllt i gofnodi...

Coedwig Gwydyr

Coedwig Gwydyr

Ychwanegu Coedwig Gwydyr i'ch Taith

Mae Parc Coedwig Gwydyr, coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghalon Eryri, yn gartref i ystod eang...

Llyn Brenig Reservoir & Visitor Centre

Cronfa Ddŵr a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig

Ychwanegu Cronfa Ddŵr a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig  i'ch Taith

Mae Llyn Brenig yng nghanol rhostiroedd Mynydd Hiraethog ac yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau...