Y Gymraeg A’i Diwylliant
Yn gryno. Ystyr geiriau? Datgelwn y cyfan.
Gallwn ddysgu llawer o’r Gymraeg. Ystyr Abergele, er enghraifft, yw ceg Afon Gele. Ystyr ‘llan’ yw darn o dir o amgylch eglwys, neu’r eglwys ei hun (ac mae sawl enw lle yn dechrau gyda ‘Llan’ i’w darganfod yma). A phan welwch y gair ‘llyn’ ar y map yna byddwch yn gwybod eich bod yn agos at ddwr.
Ond yn bwysicach na hyn, mae’r Gymraeg yn taflu goleuni ar ein diwylliant a’n ffordd o fyw. Byddwch yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn yr ardal hon, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Mae’r iaith yn cyfoethogi ein profiad o deithio, gan ategu at yr ymdeimlad o le gwahanol ac unigryw.
Mae’r ymdeimlad hwn o le – neu naws am le – yn amlwg iawn ar rostiroedd Mynydd Hiraethog, ucheldir eang o wair tuswog, grug a choedwigoedd a saif ar un ochr i Ddyffryn Conwy. Yma, mae mwy na thri-chwarter y trigolion yn siarad Cymraeg.
Os ydych am ddysgu mwy am yr ardal, edrychwch ar enw’r lle. Gall enwau lleoedd ddisgrifio nodweddion – a hyd yn oed straeon neu bobl – a chanddynt gysylltiad â’r ardal.
Mae’r iaith Frythoneg – iaith yr oeddem oll yn ei siarad ers talwm a’r iaith y tarddodd y Gymraeg ohoni – hefyd wedi cael dylanwad ar enwau lleoedd. A wyddoch chi fod yr enw ‘Dover’ yn tarddu o’r gair Cymraeg ‘dwr’?
Croeso i Gymru – Welcome to Wales.