To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Arddangosfa a Stori Tywysogion Gwynedd

Tywysogion, Cerddi a Rhagfuriau

Megis rhan o’n stori yw castell a muriau tref nerthol Conwy a godwyd gan y Brenin Edward I o Loegr. Fel y darganfyddodd yr awdur teithio o Gaer, David Atkinson, wrth iddo ymweld ag arddangosfa fawr newydd Tywysogion Gwynedd yng Nghanolfan Croeso Conwy.

DYMA UN O’R LLINACHAU ENWOCAF YN HANES CYMRU. MAE EU STORI’N YMESTYN DROS GYFNOD O GYTHRWFL A GWRTHDARO O DDIWEDD YR YMERODRAETH RUFEINIG I’R RHYFELOEDD ANNIBYNIAETH YN ERBYN EDWARD I.

Ffurfiodd sawl digwyddiad o’r adeg hon Cymru o ran ei thirwedd, ei diwylliant a’i threftadaeth. Ac eto, erys bywydau ac amseroedd Tywysogion Gwynedd, a’u trafferthion yn erbyn eu cymdogion yng Nghymru a thu hwnt, yn un o’r cyfnodau lleiaf adnabyddus yn stori Cymru.

“Llywyddodd y Tywysogion dros gyfnod o newid deinamig yn hanes Cymru. Cawsom gynifer o’n syniadau o ddiwylliant a hanes heddiw o’r cyfnod hwn,” meddai Helen Bradley, Swyddog Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae Helen yn fy nhywys o gwmpas arddangosfa newydd Tywysogion Gwynedd yn y ganolfan groeso yng nghanol Conwy. Mae’r arddangosfa’n adrodd stori’r Tywysogion gan ddefnyddio mapiau, dogfennau a recordiadau sain i ddal ysbryd yr adeg. O animeiddiad cyfeillgar i blant o seindalpiau hanesyddol i wybodaeth am fywyd yng Ngwynedd y canoloesoedd yn ystod eu teyrnasiad, mae’r arddangosfa’n gweithredu fel porth i gyfres o safleoedd ar draws Gwynedd, Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri.

“Roedd y Tywysogion yn chwaraewyr tactegol, strategol ar y llwyfan Ewropeaidd, gan ailffurfio’u tiroedd a chan greu cynghreiriau gwleidyddol cryf. Nid dioddefwyr dan orthrwm yn swatio yn y mynyddoedd mohonynt,” ychwanega Helen.

Rheolodd y Tywysogion deyrnasoedd llwythol, gan oroesi ymosodiadau’r Sacsoniaid ac adeiladu Clawdd Offa ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn yr 8fed ganrif, ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn y 9fed ganrif a brwydrau grym helaeth ac ymgecru o fewn Cymru ei hun. Ni ddyrchafodd y Tywysogion i dra-arglwyddiaeth tan y 13eg ganrif, i ddechrau gyda Llywelyn Fawr ac yn olaf ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffydd, sef y cyntaf i gael ei arddel gan y teitl Tywysog Cymru. Ar ôl ei farwolaeth, ymddengys y byddai gwerthoedd newydd Cymru o genedligrwydd, iaith a chyfraith dan fygythiad am byth. Yn wir, ni fyddai balchder y Cymry’n cael ei adfer hyd nes dyrchafiad Owain Glyndŵr yn y 1400au.

 Helen ymlaen i ddangos ail ystafell yr arddangosfa i mi, sy’n gysegredig i etifeddiaeth ddiwylliannol oes y Tywysogion. Er gwaetha’n delwedd dywyll o’r adeg, gwelodd yr oes hon lenyddiaeth Gymraeg a chelf Gymreig yn ffynnu. Yn wir, galwodd Rhys ap Gruffydd y gystadleuaeth farddonol gyntaf erioed ym 1176, sef rhagflaenydd i’r Eisteddfod sydd ohoni heddiw. Comisiynodd y Tywysogion y Beirdd i lunio cerddi marwnad a mawl a helpodd i greu mytholeg o gwmpas eu delwedd a’u llinach.

Mae un gerdd a gynhwysir, wedi’i recordio yng Nghymraeg y Canoloesoedd, yn gerdd o fawl i’r Tywysogion gan Cynddelw Brydydd Mawr. Mae’n dyddio o 1170: “Mae fel gwaywffon yn taro ar faes brwydr, un aruchel ei glod...ei waywffon wedi ei liwio â gwaed wrth iddo daenu ei ddicter.”

Ar ôl mynd am dro yn gyflym o gwmpas y muriau, cael cipolwg cyflym yn Nhŷ Aberconwy, sef llety hynaf a chanoloesol masnachwyr y dref sy’n dyddio i oddeutu 1300, a chinio yn y Siop Goffi a Siop Lyfrau L cŵl, euthum ati i olrhain etifeddiaeth y tywysogion trwy’r dirwedd amgylchynol. Cymerais linell reilffordd brydferth Dyffryn Conwy i lawr i Lanrwst trwy Ddolgarrog. Mae’r llinell yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed ym mis Mehefin eleni.

Mae’r llwybr yn pasio trwy warchodfa bywyd gwyllt yr RSPB, gan edrych yn ôl tuag at Gastell Conwy a phont rheilffordd o beirianneg ryfeddol Robert Stephenson, cyn bwrw ymlaen trwy dirwedd addas i gerdyn post heibio i Ardd Bodnant. Erbyn inni ddod at orsaf Gogledd Llanrwst, daw Coedwig Gwydyr i’r golwg.

“Profiad gwahanol iawn yw archwilio Conwy ar gludiant cyhoeddus, yn hytrach na gyrru,” meddai Larry Davies, y Swyddog Rheilffordd Gymunedol i Drenau Arriva Cymru, sy’n gweithio gyda chwmnïau bysiau lleol i gysylltu lleoliadau allweddol ar hyd llwybr y tywysogion. “Rydych chi’n mynd yn agosach at y golygfeydd, yn agosach at hanes fel hyn,” gwena.

Cydia Eglwys Sant Grwst, sydd wedi’i chysegru i’r sant Celtaidd o’r 6ed ganrif a sefydlodd yr eglwys yn Llanrwst, wrth lannau Afon Conwy. Mae Capel Gwydir, y capel o garreg nesaf at y brif eglwys ac sy’n dyddio i 1633 ymlaen, yn lletya arch garreg Llywelyn Fawr, a fu farw ym 1240 ar ôl teyrnasiad a estynnodd dros bedwar degawd.

Ystyrir Llywelyn yn un o dywysogion mwyaf Cymru, yn rheolwr grymus o’r 13eg ganrif a frwydrodd yn galed i uno’i deyrnas a chwarae rôl ar y llwyfan ehangach, gan wneud cytundebau gyda rheolwyr fel Phillip Augustus o Ffrainc ym 1212. Ar ei farwolaeth, claddwyd ei gorff yng Nghonwy yn y lle cyntaf ac wedyn fe’i symudwyd i Abaty Maenan y tu allan i Lanrwst. Pan ddiddymodd Harri VIII y mynachlogydd yn yr 16eg ganrif, symudwyd arch garreg Llywelyn i’r eglwys yn Llanrwst. Collwyd ei gorff ond mae’r arch garreg sydd wedi’i cherfio’n gelfydd wedi goroesi.

Mewn man arall ar hyd y llinell, mae lleoliadau eraill yn helpu dod â stori’r Tywysogion yn fyw. Er enghraifft, mae Eglwys Sant Mihangel ym Metws-y-Coed yn cynnwys delw calchfaen o’r 14eg ganrif o Gruffydd ap Dafydd Goch, wrth i’r castell trawiadol yn Nolwyddelan gael ei godi gyntaf gan Llywelyn Fawr ac yn dilyn hynny ei ddiwygio gan Edward I. Mae’r ddau safle ar agor i ymwelwyr.

Nôl yng Nghonwy, rwy’n gorffen trwy ymweld â Safle Treftadaeth y Byd Castell Conwy, un o gonglfeini cylch haearn Edward I o gestyll. Mae cyfres o waith celf newydd y tu mewn i adfeilion y castell yn symboleiddio tameidiau o’r stori ac yn ychwanegu dyfnder at y stori ddynol y tu cefn i ffeithiau’r llyfrau hanes. Mae Coronig Llywelyn, coron ar ben tŵr o darianau a chleddyfau yn Nhŵr y Carchar gan yr artist Rubin Eynon, yn symboleiddio ysbryd tanbaid y bobl, wrth i gerflun haearn wedi rhydu o ben Brenin Edward I gan Gideon Peterson gynrychioli presenoldeb bwganllyd yn Siambr y Brenin.

Gan sefyll ar ragfuriau amddiffynnol y castell, edrychaf dros y foryd tuag at hen safle’r castell yn Neganwy, cadarnle’r Tywysogion, sydd wedi’i ysbeilio a’i ddinistrio gan genedlaethau o oresgynwyr. Islaw mae glan cei’r harbwr prysur. “Roedd Conwy’n borthladd masnachu berw ar ddiwedd y 13eg ganrif gyda chymunedau o Saeson, Cymry a chenhedloedd eraill”, meddai Roy Williams, y Prif Geidwad yng Nghastell Conwy. “Roedd gan y castell ei fynedfa porth dŵr ei hun i ganiatáu mynediad i bobl a chyflenwadau’n syth o’r llongau.”

Mae Roy a minnau’n dringo’r grisiau troellog i gapel y castell, gyda phwysau hanes o’n cwmpas, i gael ein cyfarch gan wydr lliw newydd, Gariswn o Flodau, sydd wedi’i osod yno. Mae’r ffenestr dri phaen yn adrodd stori’r frwydr waedlyd rhwng Tywysogion Gwynedd a choron Lloegr.

“Trwy gyflwyno stori’r tywysogion i ymwelwyr y castell, rydw i wedi dysgu, fel gyda chryn dipyn o hanes, nad yw’r stori’n ddu a gwyn,” ychwanega Roy Williams. “Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith celf hwn yn gwneud i bobl feddwl eto am hanes Cymru - ac efallai’n eu hysbrydoli i gael gwybod mwy.” Eisteddwn am eiliad yn myfyrio ar sedd hanner cylch wedi’i cherfio gyda phenillion yn y Gymraeg, y Saesneg a’r Ffrangeg, yr ieithoedd a siaradwyd ym mwrdeistref newydd Conwy yn y 1280au, ar ôl Goresgyniad Edward I. Yng ngoleuni gwan hwyr y prynhawn, mae un pennill penodol yn hoelio fy sylw.

Darllena: “Let the eye pierce the mirror of the past – history’s shadow, phantom in the glass.”

Darganfyddwch fwy..

Tywysogion Gwynedd
Archwiliwch Dywysogion Gwynedd i ganfod beth sy’n gwneud Eryri yn fan hudol fel y mae heddiw, oherwydd ei hanes a’i bobl.

Castell Dolwyddelan
Fe’i codwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y Tywysog Llywelyn Fawr. Cipiwyd Castell Dolwyddelan yn ddiweddarach gan Edward I yn ystod ei oresgyniad o Gymru. Concrwch y bryn serth a gwobrwywch eich hun gyda golygfeydd gwych Dyffryn Lledr ac Eryri.

Pont Grog a Tholldy Conwy
Cyn i Thomas Telford adeiladu pont grog Conwy ym 1826, yr unig ffordd o groesi Afon Conwy oedd ar gwch. Heddiw, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng ngofal y bont, sy’n rhydd o draffig, a’i dolldy gyda’i addurn mewnol yn ffasiwn Fictoria.

Plas Mawr, Conwy
Fe’i hadeiladwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan fasnachwr cyfoethog. Mwy na thebyg mai Plas Mawr yw’r tŷ tref gorau sydd wedi goroesi o oes Elisabeth ym Mhrydain. Gyda phorthdy, talcenni grisiog a thŵr edrych allan y tu allan; addurn plastr trawiadol a deunydd dodrefnu gwreiddiol ar y tu mewn.

Llwybr Treftadaeth Llandrillo-yn-rhos
Ymhlith y 25 safle hanesyddol ar Lwybr Treftadaeth Llandrillo-yn-rhos mae Capel Sant Trillo, yr eglwys leiaf ym Mhrydain; a gweddillion bryngaer Llys Euryn o’r 5ed ganrif. Mae taflen Llwybr Treftadaeth ar gael o Bwynt Gwybodaeth i Dwristiaid Llandrillo-yn-rhos.

AP Conwy CADW
Gellir lawrlwytho ap Conwy newydd Cadw yn rhad ac am ddim i’ch iPhone neu’ch iPad ac fe’i dyluniwyd i’ch helpu chi i gael y mwyaf o’ch ymweliad. Datgelwch chwedl jac-do Conwy, archwiliwch y dref gaerog trwy gwblhau heriau a chasglu pwyntiau ar hyd y ffordd, wedyn anfonwch gerdyn post rhithwir at deulu a ffrindiau.
www.cadw.wales.gov.uk

Hanes Lleol yn syth I'ch ffôn symudol
Chwiliwch am godau bar HistoryPoints QR yn ein safleoedd treftadaeth – ar byst, waliau, hysbysfyrddau neu ar ffenestri. Sganiwch god bar QR ar eich ffôn clyfar i gael pwt o wybodaeth am y safle’n syth bin. Er mwyn cael gwybod mwy ac i lawrlwytho’r ap, ewch i www.HistoryPoints.org

Arweinir prosiect Tywysogion Gwynedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y cyd â Chyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel rhan o Brosiect Twristiaeth Treftadaeth gwerth £19m Cadw a ariennir yn helaeth gan Lywodraeth Cymru a chan Gronfeydd Cydgyfeirio’r UE.

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad Cofrestru
Ychwanegu Ystafell

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.