Digwyddiadau Allweddol
Mae llawer o bethau’n digwydd yn yr ardal hon. Digwyddiadau chwaraeon a threftadaeth, cychod, awyrennau a ralïau ceir rhyngwladol i enwi dim ond rhai.
Gemau rygbi ym Mae Colwyn, criced yn Llandrillo-yn-Rhos, hwylio yng Nghonwy a ralïo yng nghoedwigoedd Gogledd Cymru, ac eleni cynhelir un o uchafbwyntiau’r byd rasio ceir rhyngwladol, Rali GB Cymru, yng Nghonwy a Llandudno.
Mae Swae Fictoraidd Llandudno yn ddigwyddiad sy’n gweddu’n berffaith i’r gyrchfan glasurol hon. Ond nid sioe henffasiwn, diflas mohoni – mae’n llawn cyffro, yn enwedig pan fydd y Sioe Awyr yn cyrraedd y dref.
Mae’r Nadolig yn gyfnod arbennig hefyd, a chynhelir ffeiriau traddodiadol a dathliadau mewn mannau megis Llandudno a Betws-y-Coed.
Uchafbwyntiau
Golau Gaeaf - Pennod Dau, Llandudno
Daw goleuni ar straeon sydd wedi bod yn llechu yn y tywyllwch ers canrifoedd.