Visit Llandudno & Conwy - Welsh Redirects

O ganlyniad i weithredu’r wefan hon ac mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau a ddarperir, fe all Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gael gwybodaeth arbennig amdanoch. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi’r egwyddorion sy’n rheoli ein polisi prosesu a defnydd yr wybodaeth honno. Wrth ichi gyrchu a defnyddio’r wefan hon rydych yn cytuno inni brosesu storio a defnyddio’r wybodaeth honno’n unol â’r egwyddorion a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.

Wrth brosesu’r wybodaeth yr ydych yn ei chyflenwi inni, rydym yn ymdrechu i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf Diogelu Data 1998 yn ogystal â’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfeireb y Gymuned Ewropeaidd) 2003.

1. Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu?
Fe allem gasglu’r wybodaeth ganlynol pan fyddwch yn defnyddio’n gwefan:

Rydym ond yn casglu’r wybodaeth yma pan fyddwch chi’n ei chyflenwi inni. Pan gasglwn wybodaeth gennych, byddwn yn dweud pwy ydym ac yn eich hysbysu o’r pwrpas yr ydym yn casglu eich gwybodaeth ar ei gyfer. Os ydym yn casglu gwybodaeth gennych ar ran y darparwyr, byddwn yn enwi’r darparwr perthnasol ac yn egluro ein bod yn gweithredu fel asiant ar ran y darparwr wrth gasglu eich gwybodaeth.

2. Beth wnawn ni â’r wybodaeth a gasglwn?
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i’ch cyflenwi â gwell gwasanaeth, ac yn arbennig am y rhesymau canlynol:

Byddwn yn anfon yr wybodaeth a gyflenwch chi inni ymlaen i’r darparwyr hefyd i’w galluogi i:

Fe allem gysylltu â chi trwy gyfrwng e-bost, y ffôn, ffacs neu bost, oni bai eich bod wedi cofrestru â’r gwasanaeth mynegi dewis ffôn/post/ffacs priodol.

3. Marchnata uniongyrchol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyfyngu ar gasglu a defnyddio eich gwybodaeth. Rydym ond yn casglu’r cyfryw wybodaeth sydd ei hangen i ddarparu’r safonau gwasanaeth uchel, i roi gwybod ichi am y cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigiwn, ac i weinyddu ein busnes.

Fe allem ddefnyddio eich gwybodaeth i roi gwybod ichi am nodweddion newydd, digwyddiadau hyrwyddo, cynigion arbennig a gwybodaeth arall y tybiwn y byddwch yn eu cael yn ddiddorol trwy’r post, e-bost neu ffôn. Pan fyddwch yn ein cyflenwi â gwybodaeth, byddwch yn cael yr opsiwn o roi gwybod inni nad ydych ag eisiau i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio i ddibenion marchnata uniongyrchol naill ai gennym ni neu gan bartïon eraill. Os byddwch yn gofyn am yr opsiwn hwn, ni fyddwn yn anfon unrhyw ddeunydd marchnata uniongyrchol atoch.

Os byddwch yn penderfynu ar unrhyw adeg nad ydych bellach yn dymuno derbyn gwybodaeth am sir Conwy, cysylltwch â ni ar tourism@conwy.gov.uk .

4. Gyda phwy y caiff yr wybodaeth yma ei rhannu?
Fe allem drosglwyddo, datgelu, dosbarthu neu brydlesu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau sydd  wedi’u dethol yn ofalus, oni bai y dywedwch chi wrthym nad ydych yn dymuno i hyn ddigwydd, i’r dibenion canlynol.

· Galluogi i ymchwil cyfrinachol i’r farchnad gael ei gynnal ar ran y benthycwr posibl.

· Galluogi i’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt gael eu darparu.

· Darparu gwybodaeth ystadegol i drydydd partïon a phartneriaid busnes.

· Gwella’r gwasanaethau presennol a chynnig gwasanaethau newydd.

Mae gennych hawl mynediad dan y Ddeddf Diogelu Data at wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch yn ein  cofnodion. Mae’r Ddeddf yn caniatáu inni godi tâl am y gwasanaeth hwn. E-bostiwch ni ar tourism@conwy.gov.uk i gael at wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch.

Rydych yn cytuno y cawn ddatgelu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani neu sydd ei hangen yn ymwneud â chi i unrhyw awdurdod rheoleiddio yr ydym yn ddarostyngedig iddo neu i unrhyw berson mewn grym i fynnu gwybodaeth o’r fath trwy neu dan unrhyw ddeddf gyfreithiol neu ble mae trydydd parti wedi darparu i’n boddhad rhesymol gadarnhad ysgrifenedig ei fod yn credu’n wirioneddol ac yn rhesymol fod eich defnydd o’r safle wedi bod yn ddifenwol neu’n anghyfreithlon fel arall ac ymhellach fod angen datgelu eich data:


a) ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag unrhyw achos cyfreithiol (yn cynnwys achos cyfreithiol arfaethedig), neu b) ar gyfer cael cyngor cyfreithiol, neu bod ei angen fel arall ar gyfer sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol.

5. Diogeledd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu diogeledd a chyfrinachedd unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei chyflenwi inni. Ni allwn fodd bynnag warantu diogeledd unrhyw wybodaeth a ddatgelwch chi ar-lein. Rydych yn derbyn goblygiadau diogeledd cynhenid darparu gwybodaeth dros y rhyngrwyd ac ni fyddwch yn ein dal yn gyfrifol am unrhyw dor-diogeledd neu ddatgelu gwybodaeth oni bai ein bod wedi’n profi’n esgeulus.

Unwaith y derbyniwn eich gwybodaeth, er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad diawdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas yn eu lle i ddiogelu a sicrhau’r wybodaeth a gasglwn ar-lein.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cadw’r hawl i fonitro a rhyng-gipio cyfathrebiadau i ddibenion busnes cyfreithlon.

6. Gwefannau Cysylltiedig
Fe allem gysylltu â gwefannau eraill nad ydynt naill ai o fewn ein rheolaeth neu’n perchnogaeth (yn cynnwys gwefannau sy’n perthyn i ddarparwyr). Unwaith y byddwch wedi gadael ein gwefan, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am breifatrwydd unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei darparu ar unrhyw wefan a gysylltwyd o’n gwefan. Mae’r dolenni hyn yn cael eu darparu fel cyfleuster, ac nid yw cynnwys unrhyw ddolen yn golygu cymeradwyaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’r safle neu i farn, arferion neu wybodaeth a gynhwysir ar y safle, neu unrhyw gysylltiad â’i weithredwyr. Trwy wneud defnydd o ddolenni o’r fath, rydych yn deall y gall y datganiad cyfreithiol perthnasol a’r polisi preifatrwydd a fydd yn berthnasol fod yn wahanol i’n rhai ni.

7. Cwcis
Er mwyn eich cynorthwyo i we-lywio’r wefan hon ac i ni atal twyll fe allem anfon 'cwcis' o’r wefan hon i’ch cyfrifiadur. Ffeiliau sy’n storio gwybodaeth ar eich gyriant caled neu borwr sy’n golygu y gall ein gwefan adnabod eich bod wedi ymweld â’n gwefan o’r blaen yw cwcis. Maent yn ei gwneud hi’n haws ichi gynnal eich dewisiadau ar y wefan, a thrwy weld sut ydych yn defnyddio’r wefan, gallwn addasu’r wefan o gwmpas eich dewisiadau a mesur defnyddioldeb y wefan. Mae cwcis yn caniatáu inni gadw eich cyfrinair, os ydych yn ddefnyddiwr cofrestredig fel nad oes raid ichi ei ail-roi i mewn bob tro y defnyddiwch ein gwefan. Gellwch, petaech yn dewis, ddiffodd y cwcis o’ch porwr a dileu pob cwci sydd wedi’i storio ar eich cyfrifiadur ar hyn o bryd. Ni fydd dim gwybodaeth a gafwyd o’r cwci yn cael ei ddefnyddio gennym ni i ddibenion marchnata.